Dr Chris Martin BPharm(Hons) FRPharmS DLitt

Cadeirydd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Chris Martin FPharm

Fferyllydd yn ôl ei broffesiwn, enillodd Chris radd anrhydedd mewn Fferylliaeth yng Nghaerdydd cyn mynd ymlaen i fod yn berchen ar ddau fusnes fferylliaeth gymunedol annibynnol llwyddiannus yng Ngorllewin Lloegr ac yn Sir Benfro.

Mae ganddo brofiad helaeth yn y Sector Cyhoeddus ar ôl bod yn Gadeirydd pedwar sefydliad iechyd wahanol yng Ngorllewin Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf a hyd nes iddo ymddeol bu'n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cydffederasiwn GIG Cymru a chadeirydd cydlynu holl sefydliadau iechyd Cymru.

Ar hyn o bryd Chris yw Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Anweithredol Pwyllgor Archwilio a Risg ESNR ac mae'n aelod o brif Bwyllgor Archwilio a Risg Llywodraeth Cymru an yn Cyd-ddirprwy Gadeirydd Comisiwn Bevan gyda diddordeb mewn Arloesi a Gofal Diwedd Oes.

Mae'n Rheolwr Gyfarwyddwr ei gwmni datblygu eiddo ei hun, mae'n rhedeg portffolio o eiddo buddsoddi, yn Gadeirydd Porthladd Aberdaugleddau ac yn Gynghorydd Anweithredol ar Fwrdd Alliance Healthcare Distribution UK Ltd.

Mae ganddo sawl rôl wirfoddol ac elusennol gan gynnwys Ymddiriedolwr ac aelod o Fwrdd Marie Curie UK, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Cymru ar gyfer Marie Curie Cymru, Llywodraethwr Ysgol Spittal ac mae'n gweithredu fel mentor yn wirfoddol.

Dyfarnwyd cymrodoriaeth i Chris gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr yn 2006 am gyfraniad eithriadol i arfer fferylliaeth gymunedol a Doethuriaeth Anrhydeddus (DLitt) gan Brifysgol Abertawe yn 2018 i gydnabod ei yrfa a'i gyfraniad nodedig i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.