Neil Mesher
Mae gan Neil Mesher yrfa 27 mlynedd drawiadol yn Philips, wedi’i nodweddu gan gyfres o swyddi arwain uwch ar draws y DU, Sweden a’r Iseldiroedd. Dechreuodd ei daith yn Philips yn y DU, lle ymgymerodd â rolau arwain allweddol ar draws busnesau defnyddwyr a gofal iechyd yn y DU, Iwerddon a rhanbarthau Nordig. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at gael ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredol UKI yn 2016.
Yn 2022, ehangodd dylanwad Neil ymhellach wrth iddo ymgymryd â rôl arweinydd rhanbarthol ar gyfer Gogledd Ewrop, gan ddod yn aelod sylfaenol o’r tîm arwain Ewropeaidd newydd.
Y tu hwnt i’w ymrwymiadau yn Philips, mae Neil wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol yn MyHealthChecked, sydd yng Nghaerdydd, ers 2017. Mae’r rôl hon wedi rhoi cipolwg amhrisiadwy iddo ar fyd busnesau bach a chanolig sydd yn eu camau cynnar.
Ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau corfforaethol, ymunodd Neil â Bwrdd Cymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain yn 2014, gan gymryd yr awenau yn y pen draw fel Cadeirydd yn 2022. Yn rhinwedd y swydd hon, cynrychiolodd Neil y Diwydiant Technoleg Iechyd yng Nghyngor Gwyddorau Bywyd HMGov, cyd-gadeiriodd y bwrdd Partneriaeth Technoleg Iechyd Gweinidogol, a gwasanaethodd fel aelod o Fwrdd Strategaeth Ddiwydiannol Gwyddorau Bywyd y DU.
Wedi’i eni yng Nghaerdydd, mae diddordebau Neil yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell fwrdd. Mae’n gefnogwr mawr o dîm rygbi Cymru ac yn feiciwr a cherddwr brwd, sy’n adlewyrchu ei gysylltiad dwfn â’i famwlad a’i ffordd egnïol o fyw yn yr awyr agored.
“I am delighted to be joining the Life Science Hub Wales at this exciting time for the wider Healthtech sector. The challenges facing all mature healthcare systems are well documented, but I believe that in Wales we have a unique environment in which we can foster a more collaborative relationship between health and social care providers, academia and industry for the long term benefit of patients.”