Len Richards
Mae Len yn arweinydd GIG sefydledig yn y DU ac yn rhyngwladol ac mae wedi gweithio yn y sector iechyd ers dros 30 mlynedd. Daeth yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Mehefin 2017. Cyn hyn roedd yn Ddirprwy Brif Weithredwr Iechyd De Awstralia ac roedd yn canolbwyntio ar berfformiad a darpariaeth systemau Llywodraeth Awstralia.
Mae gan Len arbenigedd helaeth mewn arwain a darparu rheolaeth gofal iechyd a gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o ddarparwyr gofal iechyd, gan gynnwys y sector masnachol, i gynhyrchu canlyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth – i gyd yn gwella ansawdd ac yn cefnogi gofal cleifion.
Mae wedi gweithio ar raglenni trawsnewid gwasanaethau, rhaglenni datblygu cyfalaf gan gynnwys datblygu Canolfan Ganser $280 miliwn, uned strôc acíwt hyper a nifer o ysbytai newydd. Mae wedi arwain ar nifer sylweddol o ad-gyfluniadau clinigol proffil uchel a sensitif sy'n cynnwys gwasanaethau arbenigol, gan ganolbwyntio ar wella ansawdd a diogelwch a dileu gwastraff.