Cari-Anne Quinn

Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Cari-Anne Quinn

Cari-Anne sy’n arwain Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Iechyd, Academia a diwydiant i gyflymu datblygiad a mabwysiad  arloesiadau mewn gofal iechyd.

Yn flaenorol, mae Cari-Anne wedi gweithio mewn ystod o rolau datblygu economaidd, yn cynnwys gweithio yn rhyngwladol gydag Awdurdod Datblygu Cymru. Mae hi hefyd wedi arwain Adran Polisi Datblygu Busnes ar ran y sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru, yn gyfrifol am gefnogaeth busnes a phrosiectau arloesol allweddol gwyddorau bywyd  megis Medicentre a Hwb Gwyddorau Bywyd.