Victoria Bates

Cyfarwyddwr Anweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Victoria Bates

Dechreuodd Victoria ei gyrfa yn y GIG fel nyrs, bydwraig ac wedyn fel arbenigwr yn Iechyd Menywod. 

Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd a'r Diwydiant Fferyllol mewn rolau masnachol a gweithredol uwch, gan ddatblygu a chyflwyno rhaglenni strategol i rymuso dinasyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol i fynd i'r afael yn well ag iechyd a lles.

Mae hi’n ffocysu ar wella dealltwriaeth gadarn o'r amgylchedd a chyfieithu i strategaeth gan sicrhau manteision/canlyniadau pendant. Mae Victoria wedi arwain timau sy'n gyfrifol am ddarparu rhaglenni cenedlaethol – ar draws sawl sianel wedi'u teilwra i anghenion cwsmeriaid ar draws llawer o feysydd a disgyblaethau clefydau. Mae ganddi brofiad cryf o reoli newid diwylliannol ac o ran ymgysylltu â'r gweithlu. Ar hyn o bryd mae Victoria yn cydweithio â Phrifysgol Abertawe, i gefnogi sefydlu Addysg Weithredol sy'n canolbwyntio ar gefnogi busnesau i sicrhau mwy o werth ac adeiladu partneriaethau cydweithredol cynaliadwy.