Ein gweledigaeth yw i Gymru fod yn le dewisol ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a lles. Ein nod yw helpu pobl Cymru i elwa o gofal iechyd a lles economaidd gwell. Gwnawn hyn drwy weithio gyda chwmnïau arloesol i ddod o hyd i atebion i'r GIG a darparwyr gofal iechyd.
Rydym wedi nodi pum blaenoriaeth allweddol, sydd wedi cael eu dethol a'u llywio gan ymgysylltiad helaeth â phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru – gan nodi eu hanghenion, cyfleoedd yn y farchnad ac eu piblinell bresennol o ddiddordeb gan ddiwydiant.
Heneiddio'n dda
Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu GIG Cymru a systemau gofal cymdeithasol yw poblogaeth sy'n heneiddio, gydag unigolion sydd yn aml â chydforbidrwydd lluosog ac anghenion gofal cymhleth.
Mae hyn yn her i'r gwasanaethau iechyd a gofal ond mae cyfleoedd i fynd i'r afael ag arloesi wrth ddarparu gwasanaethau a mabwysiadu technoleg ac ar gyfer busnesau, mentrau cymdeithasol ac ymchwilwyr a all helpu pobl i gadw'n actif ac yn gynhyrchiol gyhyd ag y bo modd.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein maes Heneiddio'n Dda a sut i gymryd rhan.
Digidol a Deallusrwydd Artiffisial
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru i ddatblygu iechyd digidol yn gyflym yng Nghymru yn rhan o raglen trawsnewid digidol sy'n cynnwys dull system gyfan o osod safonau a dull gweithredu ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal iechyd digidol, ynghyd â buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau digidol a newid sylfaenol mewn strwythurau a'r broses o wneud penderfyniadau.
Mae'r rhaglen yn gam sylweddol ymlaen a bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn alinio ei weithgareddau'n agos i gefnogi'r gwaith o'i gyflawni.
I ddarganfod mwy am ein maes digidol a deallusrwydd artiffisial (AI) cysylltwch â: helo@hwbgbcymru.com
Meddygaeth Fanwl
Mae meddygaeth fanwl yn ddull o reoli a gofalu am gleifion sy'n galluogi clinigwyr i ddewis triniaethau sy'n fwyaf tebygol o helpu cleifion unigol, sy'n cyd-fynd yn bennaf ag egwyddorion gofal iechyd darbodus a gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.
Bydd cyfleoedd a gyflwynir gan feddygaeth fanwl yn cefnogi uchelgeisiau strategol Cymru fel y'u hamlinellir yn y Datganiad o Fwriad ar gyfer Meddygaeth Fanwl a Datganiad o Fwriad Cysylltiedig ar gyfer Patholeg, ar gyfer Delweddu yn ogystal ag ar gyfer Therapiwteg Uwch.
I gael gwybod mwy am ein maes meddygaeth fanwl cysylltwch â: helo@hwbgbcymru.com
Therapiau Datblygiedig
Mae cynhyrchion meddygol therapiwtig uwch fel therapïau celloedd a genynnau, amdrawsnewid llwybrau gofal cyfredol gyda thriniaethau chwyldroadol sy'n atgyweirio, amnewid, adfywio ac ail-beiriannu genynnau, celloedd a meinweoedd i adfer swyddogaeth arferol; o bosibl yn cynnig canlyniadau gwydn a gwellhaol lle mae angen meddygol difrifol heb ei ddiwallu yn bodoli.
Fodd bynnag, nid yw gwasanaethau gofal iechyd wedi'u dylunio eto i dderbyn, mabwysiadu a defnyddio'r therapïau hyn ar sail eang a rheolaidd.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein maes therapiau datblygiedig a sut i gymryd rhan.
Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Mae gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn gysyniad sy'n ennill mewn poblogrwydd ledled y byd.
Mewn ymateb i gydnabyddiaeth gynyddol mae'n rhaid cymryd camau radical i ailgynllunio gofal o amgylch anghenion cyfnewidiol ein poblogaethau os ydym am wella canlyniadau gyda'r adnoddau gwerthfawr sydd ar gael.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am ein maes Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth a sut i gymryd rhan.