Ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth

Ein gweledigaeth a’n cenhadaeth yw creu dyfodol gwell i ofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Gwyddom fod llesiant iechyd ac economaidd yn mynd law yn llaw. Ein ffocws strategol yw cyflawni’r ddau ar gyfer pobl Cymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud Cymru yn le o ddewis ar gyfer arloesedd ym meysydd iechyd, gofal a llesiant.

Ein cenhadaeth yw cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu datrysiadau arloesol ar gyfer gwell iechyd a llesiant.

Beth sy’n Ein Hysgogi Ni

Yr her fwyaf sy’n wynebu Llywodraethau’r Gorllewin heddiw yw cost gynyddol gofal iechyd. Mae mwy na 50% o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru yn cael ei hymrwymo i iechyd a gofal ar hyn o bryd.

Gall cyflwyno arloesedd yn gyflymach i’r gwasanaethau iechyd a gofal helpu i gyflawni newid systemataidd ac yma yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yr ydym yn y sefyllfa orau i gefnogi’r gweithgarwch hwn.



Rydym yn gwrando ar anghenion ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym yn clywed am yr heriau maent yn eu hwynebu ac yn gweithio gyda hwy i ddeall eu blaenoriaethau.



Mae gennym ddealltwriaeth o’r syniadau gorau a’r atebion arloesol gan y sector Gwyddorau Bywyd rhyngwladol, y gellir eu defnyddio i helpu i gyflawni anghenion a gofynion ein gwasanaethau iechyd a gofal ni.



Rydym yn gwahodd cwmnïau ac arloeswyr o bob rhan o Gymru, y DU a’r byd, i weithio gyda ni yma yng Nghymru, i rannu eu cynhyrchion, gwasanaethau ac atebion a’u cymhwyso’n effeithiol i’r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Ein Taith

Fe wnaethom ddechrau fel sefydliad aelodaeth yn 2014. Yr oeddem yn cynrychioli ac yn cefnogi ein haelodau a oedd yn cynrychioli’r sector gwyddorau bywyd a biofeddygol cyfan. Heddiw, mae ein ffocws a’n cyfeiriad strategol wedi newid. Nid ydym bellach yn cyfyngu ein gwaith i aelodau. Mae ein ffocws yn gynhwysol ac yr ydym yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws y sector, gan weithio’n uniongyrchol gyda’r GIG a byd busnes.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith yn y gorffennol ac yn falch o’i ddefnyddio er mwyn ysgogi ein hagenda i wella gofal iechyd i bawb.

I wybod mwy am ein gwaith i ddod o hyd i atebion arloesol o’r sector Gwyddorau Bywyd i wella ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, cysylltwch â hello@lshubwales.com

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2020-21, gan dynnu sylw at ei waith a'i gyflawniadau yn ystod y flwyddyn fusnes ddiwethaf.