Yr Her 

Erbyn 2030, bydd un o bob pedwar unigolyn yng Nghymru dros 65 oed – amcangyfrifir bod hynny’n 700,000 o bobl. Mae’n bwysig ein bod yn mabwysiadu technoleg newydd a fydd yn helpu’r boblogaeth i gadw’n iach, yn hapus ac yn weithgar cyhyd â phosibl. Mae pwysigrwydd yr her yn cael ei adlewyrchu yn nogfennau canlynol Llywodraeth Cymru ‘Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ (2018)’, a'r ‘Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023' yn ogystal â’r ‘Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014).'

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â her heneiddio’n iach drwy arloesi wrth ddarparu gwasanaethau a mabwysiadu technoleg, fel monitro o bell, cynnal iechyd, a datblygu a defnyddio technolegau cynorthwyol.

 

Y Cyfle   

Mae gwaith Llywodraeth Cymru o ganolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yn ddigidol yn ymrwymiad pwysig a fydd yn cefnogi’r seilwaith a’r adnoddau sylweddol sy’n ofynnol er mwyn i Gymru sicrhau bod manteision yn deillio o’r chwyldro digidol ac AI.

Rydyn ni’n gwybod bod system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu cofleidio a defnyddio atebion digidol yn gyflym i yrru gwelliannau o ran darparu gwasanaethau. Yn ystod pandemig COVID-19, roedd monitro o bell a wardiau rhithiol wedi helpu i leddfu’r pwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal sylfaenol. Roedd y berthynas â diwydiant yn hanfodol i’r ymdrechion hyn.  

Mae yna gyfle gwirioneddol i weithio mewn partneriaeth â diwydiant i ddarparu arloesedd a gwelliannau cyflym, a fydd yn arwain yn y pen draw at iechyd a gofal cymdeithasol gwerth uwch. Bydd mynediad wedi’i reoli’n dda at ddata amlhaenog ac o safon uchel (megis drwy’r Adnodd Data Cenedlaethol a storfeydd data eraill) yn golygu y gall Cymru ddenu diwydiant a chreu cyfleoedd i ddatblygu cynnyrch a busnesau newydd. 

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio ar sawl API, sef offer, diffiniadau a phrotocolau ar gyfer integreiddio gwasanaethau a meddalwedd apiau i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Mae dysgu peirianyddol yn cynnig cyfleoedd sylweddol i ddehongli setiau data anferth ar y cyd i’w defnyddio ym meysydd diagnosteg, dadansoddi delweddau meddygol, cofnodion meddygol cleifion, logisteg a geneteg. Gall systemau AI ddehongli delweddau radioleg yn gyflym. Gall hyn helpu i leihau ôl-groniadau a galluogi ein clinigwyr hyfforddedig a medrus i ganolbwyntio ar achosion mwy cymhleth. Gallai’r dechnoleg hon gyfrannu’n helaeth at fynd i’r afael â phrinder radiolegwyr ar hyn o bryd, gan ategu mentrau fel Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru.  

Gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gael gafael ar bartneriaid allweddol yn y diwydiant i gefnogi byrddau iechyd a sefydliadau gofal cymdeithasol i gyflawni'r prosiectau sy'n cefnogi’r trawsnewid hwn. Mae gennym gysylltiadau cryf â busnesau gofal iechyd digidol bach a mawr, a gallwn helpu i gyfateb eu datrysiadau ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth rheoli prosiectau i hwyluso’r gwaith o fabwysiadu arloesedd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen Deallusrwydd Artiffisial, Digidol a Roboteg, cysylltwch â: helo@hwbgbcymru.com.