Cyhoeddwyd y bydd y diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru yn elwa o ymgysylltu’n fwy uniongyrchol â rheoleiddiwr y DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Mae Cymru ar flaen y gad ym meysydd Technoleg Feddygol, diagnosteg wedi’i phweru gan ddeallusrwydd artiffisial, gwella clwyfau, meddygaeth adfywiol, therapi celloedd a meddygaeth fanwl, gan gyflogi dros 13,000 o arbenigwyr ar draws 300 o gwmnïau. Mae rhaglen ddigwyddiadau newydd yr MHRA yn rhoi arbenigedd rheoleiddio wrth galon pwerdy gwyddorau bywyd Cymru, gan helpu’r diwydiant i symud yn gyflymach ac yn bellach. Mae tri chwarter cynnyrch y diwydiant yn cael ei allforio, gan gynhyrchu trosiant o £2.6 biliwn a chyfrannu’n sylweddol at yr economi.
Cyfarfu Bwrdd yr MHRA â chydweithwyr Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar 18 Mai i fapio gwaith partneriaeth yn y dyfodol, gan ddangos ymrwymiad i ymgysylltu’n ddyfnach â diwydiannau lleol, ymchwilwyr, y GIG lleol a’r llywodraeth. Bydd Lawrence Tallon, Prif Weithredwr yr MHRA, hefyd yn ymweld â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru – sefydliad sy’n pontio’r datblygiadau arloesol diweddaraf yn y sector gwyddorau bywyd gyda defnydd rheng flaen ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yr ymweliad yn edrych ar sut gall yr MHRA gryfhau ei gefnogaeth i’r arloeswyr hyn yng Nghymru.
Bydd Diwrnodau Cyswllt yr MHRA yn dod â chynrychiolwyr MHRA i Gymru yn rheolaidd i gynnal cyfarfodydd a gweithdai ar y pynciau sydd fwyaf perthnasol i sectorau Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd Cymru. Bydd rhanddeiliaid lleol sy’n gweithio yn y sectorau iechyd, gofal a gwyddorau bywyd yn gallu trefnu sesiynau cymhorthfa wyneb yn wyneb gydag arbenigwyr technegol yr MHRA i hwyluso trafodaethau manylach.
Bydd Diwrnodau Cyswllt MHRA yn cynnwys pynciau fel llwybrau arloesi, ymchwiliadau clinigol ar gyfer technoleg feddygol, cymorth rheoleiddiol a ffyrdd o ymgysylltu â’r MHRA drwy gydol y broses datblygu cynnyrch. Bydd y mynediad uniongyrchol hwn yn cefnogi ymchwil glinigol a datblygu therapïau a thechnolegau newydd, gan sicrhau bod meddyginiaethau a dyfeisiau a allai achub bywydau cleifion yn eu cyrraedd yn gyflymach.
Dywedodd yr Athro Anthony Harnden, Cadeirydd yr MHRA:
“Mae’r MHRA yn rheoleiddiwr ar gyfer yr holl wledydd sy’n rhan o’r DU ac rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau ein perthynas â phartneriaid a chydweithwyr ar draws yr ecosystem gwyddorau bywyd yng Nghymru, sydd o fudd i’r naill ochr a’r llall.
Drwy weithio ochr yn ochr â diwydiant, ymchwilwyr a’r maes gofal iechyd, gallwn gefnogi’r gwaith o ddatblygu triniaethau arloesol a meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol sy’n newid bywydau pobl yng Nghymru, gan roi cleifion a’u diogelwch yn gyntaf bob amser.”
Dywedodd Lawrence Tallon, Prif Weithredwr yr MHRA:
“Rydyn ni wedi gwrando ar ddiwydiant, y byd academaidd a darparwyr gofal iechyd i ddeall sut gallwn ni, fel rheoleiddiwr sydd wir yn adnabod ac yn deall pob rhan o’r Deyrnas Unedig, gefnogi eu gwaith i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
Mae ein presenoldeb mwy rheolaidd yng Nghymru yn gyfle cyffrous i gefnogi’r diwydiant gwyddorau bywyd sy’n tyfu, gan sicrhau bod cyngor ac arbenigedd yn cael eu teilwra i gymunedau ac economïau lleol, gan helpu’r sector i ffynnu.”
Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru:
“Rydyn ni’n gyffrous am y cyfle i gydweithio'n agosach â'r MHRA i gefnogi’r broses o ddatblygu technolegau iechyd arloesol.
“Mae gan Gymru sector gwyddorau bywyd ffyniannus ac mae'n bwysig ein bod yn nodi technolegau sydd â'r potensial i wella bywydau pobl yng Nghymru."
Dywedodd Dr Andrew Champion, Cyfarwyddwr Rhaglen Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC):
“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ymgysylltiad cynyddol yr MHRA yng Nghymru a’r cyfleoedd y mae hyn yn eu creu i’n cymuned ymchwil a gwyddorau bywyd. Drwy Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru, a gynhelir yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, rydyn ni’n annog adrodd ar adweithiau niweidiol i feddyginiaethau, brechlynnau a dyfeisiau ar draws GIG Cymru i wella diogelwch cleifion, a thrwy ein cydweithrediad â’r MHRA ar ILAP rydyn ni’n cyflymu’r gwaith o ddatblygu meddyginiaethau newydd trawsnewidiol a gallu cleifion i gael gafael arnynt. Bydd Diwrnodau Cyswllt yr MHRA yn cryfhau’r berthynas â phartneriaid yng Nghymru sy’n gweithio iwella canlyniadau iechyd i bobl sy’n byw yng Nghymru.”
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rwyf yn falch iawn o groesawu presenoldeb cynyddol yr MHRA yng Nghymru. Mae hwn yn gam cadarnhaol i arloeswyr, ymchwilwyr a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, gan helpu i greu’r amgylchedd cywir i arloesedd dyfu. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gefnogi a gweithio gyda'r rheini sy'n datblygu'r genhedlaeth nesaf o driniaethau a dyfeisiau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru ar yr un pryd â chefnogi ein heconomi."
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer Diwrnodau Cyswllt yr MHRA yng Nghymru, cysylltwch â wales-support@mhra.gov.uk