Rydym yn falch o groesawu Dr Catrin Middleton i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel ein Pennaeth Cyflawni Rhaglenni newydd.
Gan weithio’n agos gyda’n Huwch Dîm Arwain a’n Bwrdd, mae Catrin yn ymuno â’n Huwch Dîm Rheoli a bydd yn arwain y gwaith o gynllunio a chyflawni rhaglenni sy’n helpu i ganfod, i werthuso ac i weithredu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Yn ei rôl, bydd Catrin yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y GIG, gofal cymdeithasol, diwydiant, y byd academaidd a gwasanaethau cymorth allweddol yn y sector preifat a chyhoeddus i ganfod anghenion sydd heb eu diwallu a chyfateb y cyfleoedd gorau i flaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys helpu i chwalu rhwystrau rhag mabwysiadu a chefnogi’r newid diwylliannol sydd ei angen i wreiddio arloesedd ar draws y sector.
Mae gan Catrin brofiad helaeth ym maes ymchwil iechyd ac mae hi wedi cydweithio ar draws sefydliadau ar lefel genedlaethol, ac mae ganddi wybodaeth drylwyr am iechyd ac arloesedd yng Nghymru. Daw Catrin o Greigiau ar gyrion Caerdydd yn wreiddiol, cafodd PhD mewn ymchwil drosi ym maes canser o Brifysgol Nottingham cyn dechrau ei gyrfa gyda Cancer Research UK yn Llundain. Arweiniodd dreial rhagsgrinio canser yr ysgyfaint blaenllaw ar draws y DU fel Pennaeth Meddygaeth Fanwl, cyn dychwelyd i Gymru yn 2018 i arwain Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru, gan sefydlu Partneriaeth Genomeg Cymru i sbarduno cydweithio a dull unedig o ymdrin â genomeg yng Nghymru.
Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae gan Catrin gyfoeth o brofiad o gyflawni rhaglenni, prosiectau a threialon gan weithio gyda’r GIG yng Nghymru a Lloegr, ochr yn ochr â gwybodaeth drylwyr am genomeg a meddygaeth fanwl. Bydd profiad Catrin yn amhrisiadwy, ac rydym yn falch iawn o’i chroesawu i’r tîm wrth i ni barhau i gryfhau ein gwaith o gefnogi mabwysiadu arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.”
Dywedodd Dr Catrin Middleton, Pennaeth Cyflawni Rhaglenni, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Dwi wrth fy modd cael ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn enwedig ar adeg pan mae gwella profiadau a chanlyniadau cleifion yn bwysicach nag erioed. Dwi ar dân dros weithio gyda chleifion a phartneriaid ar draws y system er mwyn trosi arloesedd yn welliannau ymarferol mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Dwi’n edrych ymlaen at archwilio’r rhwystrau sy’n atal mabwysiadu er mwyn i arloesedd allu cyrraedd pobl yn gyflymach o Fôn i Fynwy.”
Mae penodi Catrin yn adlewyrchu’r angen cynyddol i gryfhau sut mae arloesedd yn cael ei fabwysiadu a’i ledaenu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gyda mwy a mwy o bwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol, mae arloesedd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wella canlyniadau i bobl yng Nghymru a helpu gwasanaethau i ymateb i heriau cymhleth. Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym yn canolbwyntio ar gefnogi partneriaid i symud atebion addawol o’r cam asesu i gael eu defnyddio yn y byd go iawn, gan chwalu’r rhwystrau rhag gweithredu a chan sbarduno effaith i gleifion, i wasanaethau ac i’r economi ehangach.
Byddem yn falch iawn o glywed gan sefydliadau sydd â datblygiadau arloesol sy’n barod i gael eu hasesu neu eu mabwysiadu, yn ogystal â thimau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n chwilio am atebion i heriau mabwysiadu helo@hwbgbcymru.com.