Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydyn ni wedi ymuno â Chymorth Cymorth Canser Macmillan i lansio partneriaeth, gyda'r nod o gyflymu arloesedd ym maes gofal canser a gwella canlyniadau i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw ledled Cymru. 

The LSHW team with the Macmillan team

Mae canser yn parhau i fod yn un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru, gyda chanlyniadau'n dal ar ei hôl hi o’i gymharu â gwledydd eraill y DU a llawer o wledydd Ewrop. Er gwaethaf ymyriadau wedi'u targedu, mae amrywiad sylweddol heb gyfiawnhad yn parhau o ran atal, mynediad at ofal, a thriniaeth - yn enwedig ar gyfer canser yr ysgyfaint, y colon a'r rhefr, y prostad a'r fron.  

Gall siawns pobl o gael diagnosis cynnar, triniaeth a goroesi fod yn wahanol yn dibynnu ar ble maen nhw'n byw neu eu cefndir, yn hytrach na'u hanghenion meddygol yn unig. Gall hyn gyfrannu at ganlyniadau goroesi gwaeth mewn ardaloedd sydd â llai o ddefnydd o wasanaethau, gan arwain at anghydraddoldebau iechyd. Mae marwolaethau canser yng Nghymru 52% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, gan dynnu sylw at yr angen brys i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau hyn.  

Mae momentwm cynyddol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gydag uchelgais glir gan Lywodraeth Cymru drwy ei menter Mynd i'r Afael â Chanser, ac arweinwyr iechyd i ddarparu gwell gofal canser. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd ag ymdrechion cenedlaethol, i sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig ac i gefnogi profiad tecach a mwy cyson i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw, lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru.  

Yn ystod y cam darganfod cychwynnol, bydd y bartneriaeth newydd yn ymgysylltu â grŵp eang o bartneriaid cyflawni a chynghori craidd, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ganser, sefydliadau'r GIG yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, y trydydd sector, y byd academaidd, arloeswyr a chyllidwyr. Gan ddefnyddio data, bydd y bartneriaeth yn nodi lle mae amrywiadau diangen yn bodoli o ran diagnosis canser, triniaeth, mynediad at wasanaethau, a chanlyniadau.   

Gan weithio gyda'n gilydd, byddwn yn ceisio nodi a chyflymu prosiectau arloesi yng Nghymru sydd â photensial gwirioneddol i gael eu mabwysiadu'n ehangach ar draws y system iechyd, gan adeiladu ar wybodaeth bresennol y sector, ymgysylltu clinigol, a mapio arloesedd.   

Dywedodd Kate Williams, Arweinydd y Cenhedloedd, Cymorth Gwasanaethau Canser Macmillan yng Nghymru: 

“Yn Macmillan, rydyn ni'n credu y dylai pawb sydd â chanser gael mynediad at y gofal canser gorau posibl. Er mwyn cyflawni hynny, mae angen inni leihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn y system ar hyn o bryd, gan sicrhau bod atebion a dulliau arloesol newydd yn cael y cyfle gorau posibl i gael eu mabwysiadu cyn gynted â phosibl ledled Cymru. Mae llawer eisoes yn cael ei wneud, a gobeithiwn y bydd y bartneriaeth newydd gyffrous hon yn gam nesaf pwysig tuag at sicrhau bod pawb sydd â chanser, pwy bynnag ydyn nhw neu ble bynnag maen nhw'n byw, yn gallu cael y gofal canser gorau posibl.” 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Rydyn ni'n falch o gyhoeddi ein partneriaeth newydd â Cymorth Canser Macmillan. Drwy gydweithio, a chyfuno arbenigedd o bob sector, mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein cenhadaeth gyffredin i leihau anghydraddoldebau iechyd mewn gofal canser a sbarduno newid ystyrlon i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw yng Nghymru.” 

Mae ein partneriaeth yn gyfle pwysig i ddod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i gyd-ddatblygu ymateb sy'n cael ei arwain gan arloesedd i heriau canser, ac i weithredu fel catalydd ar gyfer nodi ymyriadau wedi'u targedu sy'n gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon i ganlyniadau a phrofiadau canser yng Nghymru.  

Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod Richard Pugh, cyn Bennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan, bellach wedi ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Pennaeth Partneriaethau, dros gyfnod mamolaeth o 3 Tachwedd ymlaen. Daw Richard â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth ddofn o'i gyfnod gyda Macmillan. Bydd ei benodiad yn helpu i gryfhau'r bartneriaeth hon ymhellach, gan sicrhau bod ein hymdrechion cydweithredol yn sbarduno effaith ystyrlon ledled Cymru.  

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech chi fod yn rhan o'r cam darganfod, cysylltwch â colette.buckley@lshubwales.com