Mae’n bleser gennym gyhoeddi penodiad Elinor Williams fel ein Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu newydd.

Mae Elinor yn ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ôl gyrfa ddisglair gydag Ofcom, gan ddod â chyfoeth o brofiad a pherthnasoedd cryf â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth, diwydiant a'r cyfryngau i gryfhau ein henw da yng Nghymru. Elinor oedd wyneb Ofcom yng Nghymru am flynyddoedd lawer, gan gynrychioli'r sefydliad ym mhob rhan o Gymru ac mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau o gyfarfodydd mewn neuaddau pentref i Bwyllgorau'r Senedd a chyfweliadau â'r cyfryngau. Yn ystod ei chyfnod gydag Ofcom, llwyddodd i feithrin perthnasoedd hirdymor gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol. Mae Elinor yn gyffrous am y cyfle i ddefnyddio ei phrofiad a'i harbenigedd yng ngwaith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Fel Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, bydd Elinor yn arwain y tîm wrth hyrwyddo arloesedd drwy straeon a strategaethau creadigol i sicrhau bod ein heffaith a'n manteision yn cael eu cydnabod yn eang, gan adeiladu ar berthnasoedd parhaol gyda’r llywodraeth, Senedd Cymru, rhanddeiliaid a'r cyfryngau i godi proffil Cymru ac i dynnu sylw at sut mae ein gwaith yn trawsnewid gofal i gleifion a thwf economaidd.
Mae annog arloesedd wedi bod wrth wraidd llawer o waith Ofcom yn y sector telathrebu ac mae‘r un mor bwysig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mewn cyfweliad diweddar ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru (4 Medi 2025), tynnodd Elinor sylw at bwysigrwydd meithrin perthnasoedd hirdymor gyda rhanddeiliaid ac effaith sylweddol gwaith Ofcom yng Nghymru. Mae Elinor wedi arwain rhaglenni gwaith allweddol ar gyfer Ofcom yng Nghymru, gan gynnwys yr Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus, gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mentrau i wella cysylltedd mewn rhannau gwledig o Gymru, a sicrhau bod Ofcom yn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg.
Dywedodd Elinor Williams, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu:
“Rydw i wrth fy modd cael ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Rwy'n gweld ein gwaith fel un sy'n gwella bywydau cleifion drwy hwyluso arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol tra’n hyrwyddo twf economaidd. Rwy'n gyffrous i fod yn rhan o hynny ac i ddod â fy nghreadigrwydd a'm hymrwymiad i'r rôl.”
“Rydw i wedi bod yn ffodus i weithio gyda nifer o bobl wybodus ac eithriadol yn Ofcom, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm talentog yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, y GIG a phartneriaid eraill. Mae hyrwyddo arloesedd ym maes gofal iechyd yn eithriadol o bwysig yng Nghymru a’r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy gydweithio a meithrin perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth.”
Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Arloesi a Mabwysiadu, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydyn ni’n gyffrous i groesawu Elinor fel ein Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu newydd. Bydd creadigrwydd Elinor, ei chefndir strategol, ei hangerdd dros Gymru a’i gwaith yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i gynyddu ein heffaith a gwneud Cymru yn gyrchfan o ddewis i arloeswyr.”
Mae profiad helaeth ac angerdd Elinor am arloesedd yn amhrisiadwy wrth hyrwyddo ein cenhadaeth. Rydyn ni’n annog pob rhanddeiliad i ymgysylltu a chysylltu â'n Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu newydd. Eisiau trafod cyfleoedd newydd? Cysylltwch â ni ar helo@hwbgbcymru.com.