Hidlyddion
date
Gwobrau Arloesi MediWales 2024

Cymuned iechyd a gwyddorau bywyd Cymru yn dathlu prosiectau iechyd a gofal yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2024

Trydydd parti
Y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol yn dathlu cynnydd o ran trawsnewid y broses o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yng Nghymru

Mae’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol wedi cyhoeddi ei Adolygiad Blynyddol cyntaf i ddangos sut mae’n defnyddio arloesedd digidol a chydweithio i wneud y broses o ragnodi, dosbarthu a rheoli mynediad at feddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Y cleifion cyntaf yn elwa o wasanaeth presgripsiynau electronig newydd yng Nghymru

Dau safle yn y Rhyl ydy’r cyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth presgripsiynau electronig newydd yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei gefnogi’n ariannol gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol – sydd wedi cael ei greu a’i reoli gan ein sefydliad ni mewn partneriaeth â Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol (DMTP), sydd wedi darparu grantiau i gyflenwyr systemau fferyllol.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Gyrru Technoleg Ymgolli Ymlaen: Lansio Grŵp Diddordeb Arbennig

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn dod at ei gilydd, ochr yn ochr ag eraill ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r byd academaidd, i fanteisio ar bŵer technoleg ymgolli a gwthio arloesi i’r rheng flaen.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Beth wnaethon ni ddysgu yn y Symposiwm Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch?

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gynnal y Symposiwm Cynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Uwch a gynhaliwyd ar 16 Mehefin, lle archwiliwyd sut gall y GIG helpu i siapio’r broses o gyflwyno'r therapiwteg hyn yng Nghymru. Darllenwch grynodeb o’r sgyrsiau diddorol a gyflwynwyd yn ystod y dydd gan y bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau.

Rhanddeiliaid allweddol yn rhannu barn am raglen genedlaethol arloesol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru

A wnaethoch chi fynychu digwyddiad panel ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, a gynhaliwyd yn ConfedExpo y GIG a oedd yn archwilio’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru? Rhag ofn i chi golli’r sesiwn, dyma grynodeb o’r prif bwyntiau trafod a’r wybodaeth allweddol am y rhaglen...

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Ysbrydoli Arloesedd - Rhifyn mis Marwth

Mae mis Mawrth wedi bod yn fis prysur ar gyfer arloesedd yng Nghymru gyda nifer o gyfleoedd ariannu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a allai wella canlyniadau iechyd tymor hir i bobl ledled y wlad.

Y 10 Cylchlythyr Iechyd, Gofal ac Arloesi Gorau yn 2023

Rydyn ni wedi casglu’r cylchlythyrau gorau sydd ar gael eleni er mwyn ei gwneud yn haws i chi gadw golwg ar y datblygiadau diweddaraf yn eich maes, boed hynny ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, technoleg feddygol, ymchwil neu dechnoleg ddigidol.

Digwyddiad Data Mawr

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a’r Adnodd Data Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad Data Mawr ar 29 Mawrth 2023 yn Stadiwm Principality, Caerdydd. 

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Gwahodd diwydiant i gefnogi darpariaeth gofal brys yng Nghymru

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI wedi lansio cyfle cyffrous i ddiwydiant gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Byrddau Iechyd yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw nodi a gweithredu atebion arloesol a all leihau’r galw digynsail ar ambiwlansys a gwasanaethau Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng ledled Cymru.

Ysbrydoli Arloesedd - Rhifyn mis Ionawr

Croeso i Ysbrydoli Arloesedd, ein herthygl nodwedd fisol lle rydyn ni’n rhannu’r straeon, y datblygiadau a’r llwyddiannau diweddaraf ym maes arloesi yng Nghymru.

Cwblhau’r hysterectomi robotig cyntaf yng Nghymru

Mae’r hysterectomi robotig cyntaf yng Nghymru gan ddefnyddio robot Versius wedi digwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn ganlyniad i weithredu Rhaglen Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg, sydd wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, byrddau iechyd ledled Cymru a’r Moondance Cancer Initiative.

Cydweithio ac arloesi: Conffederasiwn GIG Cymru 2022

Roedd yn bleser gennym fynd i Gynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa Conffederasiwn GIG Cymru 2022, lle bu ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, yn rhoi sgwrs am sut mae arloesedd digidol yn trawsnewid gofal clwyfau yng Nghymru.

Tynnu sylw at arloesi digidol ym maes gofal iechyd yn MediWales Connects

Mae’n bleser gan EIDC gefnogi cynhadledd MediWales Connects sydd ar y gweill. Cynhelir y digwyddiad ar-lein rhwng 29 Mawrth a 1 Ebrill 2021, a bydd yn dod â chydweithwyr y GIG o bob cwr o Gymru, cwmnïau lleol a’r sector diwydiant ehangach at ei gilydd i edrych ar yr arferion gorau ar gyfer arloesi clinigol.

Labordy Data Rhwydweithio i'w Sefydlu yng Nghymru

Dewiswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Prifysgol Abertawe a Gofal Cymdeithasol Cymru fel un o bum Labordy Data Rhwydweithio ‘The Health Foundation’. Byddant yn derbyn hyd at £400,000 dros ddwy flynedd i ffurfio cymuned o ddadansoddwyr sy'n gweithio ar yr heriau iechyd a gofal mwyaf.

Wythnos Technoleg Cymru - Lansio Porthol Datblygwyr GIG Cymru

Fel rhan o wythnos technoleg gyntaf Cymru, mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn cyflwyno fersiwn beta newydd sbon o Borthol Datblygwyr GIG Cymru. Ei nod yw ei gwneud yn haws i ddatblygwyr ddeall gofynion a phrofi datrysiadau prototeip ar gyfer GIG Cymru.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi Cymru iachach

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bartner yng Nghynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru eleni, sy’n cael ei chynnal ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd.

Cyngres Iechyd a Gofal Digidol 2019

Ar 22 a 23 Mai 2019, bu tîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn arddangos yn y Gyngres Iechyd a Gofal Digidol yn y King’s Fund yn Llundain. Mae'r digwyddiad yn dod â gweithwyr proffesiynol allweddol o’r GIG a’r maes gofal cymdeithasol ynghyd i drafod sut gall data a thechnoleg wella iechyd a lles cleifion, ac ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau.

Arloesedd Digidol yn ymarferol

Fe wnaeth tua 300 o gynrychiolwyr o'r gwasanaethau iechyd, gofal a diwydiant yn dod at ei gilydd ar gyfer ail gynhadledd Iechyd a Gofal Digidol Cymru 2018, 'Cyflymu Newid Digidol.'