Trydydd parti

Bellach mae gan gwmnïau Technoleg Iechyd arloesol y cyfle i wneud cais am raglen Sbarduno flaengar yr Unol Daleithiau, a ddatblygwyd yn benodol i helpu cwmnïau yn y DU i sbarduno eu busnes yn yr UD.

ABHI logo

Mae Cymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI) - prif gymdeithas diwydiant technoleg iechyd y DU - newydd agor nifer cyfyngedig o leoedd canol blwyddyn ar gyfer ei rhaglen Sbarduno UD.

Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae'r Rhaglen Sbarduno ABHI (ABHI US Accelerator), a gynhelir mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygol Dell yn Austin, Texas, wedi'i anelu at gwmnïau dyfeisiau meddygol, diagnostig a iechyd digidol yn y DU sydd am gael mynediad i faes gofal iechyd yr UD. Mae'r rhaglen gymorth 12 mis yn rhoi'r cyfle i gwmnïau ddiffinio a chryfhau eu strategaeth yn yr UD, dileu risg mynediad i'r farchnad a thyfu eu busnes yn yr UD trwy ddefnyddio cyngor, arbenigedd a chysylltiadau ABHI o fewn y wlad.

Mae'r rhaglen hefyd yn hwyluso cyflwyniadau i arweinwyr ysbytai, clinigol a chadwyni cyflenwi, gan alluogi cwmnïau i gysylltu'n uniongyrchol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i drafod eu cynhyrchion a'u gwasanaethau. Yn ogystal, a chyda chefnogaeth rhwydwaith eang ABHI o bartneriaid o fewn systemau iechyd yr UD, mae'r cwmnïau sy'n cymryd rhan yn cael mynediad unigryw i raglen lawn blwyddyn gyfan ABHI o deithiau masnach a gweithgarwch rhithwir ar draws UD. Dros y flwyddyn gall cwmnïau ddisgwyl cyfarfod â dros 330 o glinigwyr ac uwch arweinwyr mewn dros 35 o ysbytai a 25+ o systemau academaidd, yn ogystal â Sefydliadau Prynu Grŵp, Yswirwyr, Buddsoddwyr, Asiantaethau Datblygu Economaidd a sefydliadau eraill a all gefnogi mynediad i farchnad yr UD.

Dywedodd Paul Benton, Rheolwr Gyfarwyddwr, Rhyngwladol: “Mae Rhaglen Sbarduno yr UD yn ffordd wych o helpu i yrru’ch busnes o fewn marchnad Technoleg Iechyd fwyaf y byd. Trwy Raglen Sbarduno yr UD, mae gan gwmnïau fynediad unigryw i'n rhwydwaith helaeth a'r cyngor a'r arbenigedd y mae'n eu cynnig, gan gynnwys mynediad heb ei ail at uwch feddygon, swyddogion gweithredol lefel uchaf y system iechyd, a llu o gysylltiadau gofal iechyd yr UD.”

Mae adborth gan garfannau blaenorol wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda llawer o gynrychiolwyr yn mynegi pa mor drawsnewidiol y mae’r profiad wedi bod iddyn nhw a’u busnesau. 

Yng ngeiriau un aelod Nick De Pennington, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Ufonia, “Mae wedi bod yn anhygoel cael lefel o fynediad ac ymgysylltiad gan uwch dimau arwain rhai o sefydliadau gofal iechyd mwyaf yr UD. Mae cyfle Raglen Sbarduno yr UD wedi bod yn amhrisiadwy i’n cwmni, gan ganiatáu inni wneud cysylltiadau a deall anghenion defnyddwyr terfynol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, fel y gallwn weithredu a chynyddu ein busnes yn effeithiol ym marchnad yr UD.”

I wneud cais, neu am drafodaeth anffurfiol am y cyfle, cysylltwch â lottie.mcmahon@abhi.org.uk