Mae prif Gymdeithas Masnach ym maes technoleg iechyd y DU, ABHI, yn galw ar gwmnïau ac unigolion TechIechyd, a sefydliadau’r GIG, i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer ymgyrch ‘Arloesi mewn TechIechyd: Cydnabod Rhagoriaeth’.

Innovation graphic

Mae’r ymgyrch, sydd â’r nod o ddathlu rhagoriaeth arloesi ym maes TechIechyd ledled y wlad, yn cefnogi galwad ehangach ABHI am well ffocws ar rannu arferion gorau o ran mabwysiadu arloesedd, a chynnydd yn yr adnoddau a ddyrennir ar gyfer arloesi ei hun.

Mae’r alwad i sefydliadau gyflwyno enghreifftiau bellach ar agor, a gellir cyflwyno ceisiadau ar sail dreigl. Gellir cyflwyno ceisiadau ar draws gwahanol gategorïau, o gefnogi’r gweithlu, i leihau anghydraddoldebau iechyd. Yn hollbwysig, mae’r holl gategorïau’n cyd-fynd â pholisi allweddol y GIG, gan ganolbwyntio ar bartneriaeth.

Nid oes cyfyngiad ar nifer y cyflwyniadau y gall pob cwmni eu gwneud, a bydd y rhestr o enillwyr yn cael ei chasglu a’i rhannu drwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Materion y Llywodraeth ABHI, Eleanor Charsley:

“Mae cydnabod unigolion a sefydliadau am eu hymdrechion partneriaeth i sbarduno gwelliannau drwy arloesi, ac felly, gwell canlyniadau i gleifion a’r GIG, yn eithriadol o bwysig. Gall hwn fod yn dempled defnyddiol ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol.  Edrychwn ymlaen at adolygu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ledled y wlad ac arddangos enghreifftiau lle mae gwaith partneriaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion.”

 

Ychwanegodd James Davis, Prif Swyddog Arloesi, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Royal Free Llundain:

“Ein pobl yw ein hased mwyaf, ac rwy’n falch iawn o weld y cyfle gan yr ABHI i unigolion a sefydliadau gael cydnabyddiaeth am y gwaith anhygoel ac arloesol sy’n cael ei wneud ledled y DU a ledled y GIG. Bydd yr ymgyrch hon yn rhoi’r gydnabyddiaeth haeddiannol i’n harloeswyr gorau sy’n gwthio ffiniau posibilrwydd bob dydd.”

 

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, ewch i wefan ABHI.