Mae’r Swyddfa Gwyddorau Bywyd yn lansio arolwg i werthuso gweithgareddau ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu effeithiol ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae pawb yn hen gyfarwydd ag effaith y diwydiant Technoleg Iechyd ar gleifion ac ar systemau iechyd; ond nid yw’r ôl troed economaidd mor gyfarwydd. Mae creu swyddi o ansawdd uchel a chlystyrau rhanbarthol bywiog yn hanfodol i fesur effaith y diwydiant Technoleg Iechyd yn ei gyfanrwydd.
I fapio’r effaith hon ar raddfa genedlaethol, mae KPMG, gyda chefnogaeth Cymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI), wedi lansio arolwg i asesu gweithgareddau Technoleg Iechyd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae busnesau Technoleg Iechyd sy’n gweithio yn y sector yn cael eu hannog i gymryd rhan. Bydd yr holl wybodaeth a fydd yn cael ei rhannu’n hollbwysig i gael gwell dealltwriaeth o effaith diwydiant Technoleg Iechyd y Deyrnas Unedig, a chyfrannu at welliannau wedi’u targedu yn y sector yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg ar agor tan 11 Awst 2023.
I gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg, ewch i wefan KPMG.