Trydydd parti

Mae’r gwaith o gyflwyno rhagnodi electronig yng Nghymru yn symud yn ei flaen yn gyflym, a Positive Solutions yw’r darparwr technoleg iechyd diweddaraf i gael ei feddalwedd wedi’i gymeradwyo ar gyfer defnydd llawn yn ei fferyllfeydd cymunedol.

Senior man is looking for information about the medicine over the Internet. He is holding a medicine in one hand and he looks worried

Positive Solutions yw’r trydydd cyflenwr i dderbyn caniatâd i ddefnyddio ei dechnoleg Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru. Maent yn ymuno ag Invatech a Boots fel y cwmnïau sydd wedi datblygu a phrofi eu systemau fferylliaeth yn llwyddiannus er mwyn gallu derbyn presgripsiynau yn electronig.

Mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn caniatáu i feddygon teulu a rhagnodwyr eraill anfon presgripsiynau yn electronig i fferyllfa o ddewis y claf. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen argraffu’r ffurflen bapur werdd mwyach na mynd â hi i’r fferyllfa, sy’n lleihau’r defnydd o bapur yng Nghymru a helpu’r amgylchedd.

Mae EPS yn rhan allweddol o’r rhaglen drawsnewid Moddion Digidol, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac mae’n gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, sy’n arwain y rhaglen EPS Gofal Sylfaenol

“Mae’n gyffrous iawn gweld Positive Solutions yn derbyn cymeradwyaeth i ddefnyddio ei dechnoleg mewn fferyllfeydd ledled Cymru. Mae’r cydweithio rhwng Positive Solutions a Moddion Digidol i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon wedi bod yn wych, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o gleifion yn elwa o bresgripsiynau electronig wrth i Positive Solutions ddechrau cyflwyno ei feddalwedd mewn fferyllfeydd ledled Cymru.”

Dywedodd Steve Russell, Prif Swyddog Masnachol Positive Solutions

Rydym wrth ein bodd medru helpu i arwain y gwaith o gyflwyno’r rhaglen EPS yng Nghymru. Mae ein cwsmeriaid fferylliaeth yn deall manteision y newid hwn, iddyn nhw a’u cleifion, ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi ar y daith hon. Yma yn Positive Solutions mae gennym hanes hir a llwyddiannus o ysgogi arloesi ym maes fferylliaeth gymunedol. Trwy gydweithio cryf â GIG Cymru, rydym wedi dangos unwaith eto pa mor bwerus y gall technoleg fod wrth gyflawni trawsnewid yn y sector hwn.”

Lansiwyd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ym mis Tachwedd 2023 ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o safleoedd yn Ne a Gogledd Cymru. Gan ddechrau’r haf yma, bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno gam wrth gam ym mhob fferyllfa a phractis meddyg teulu, a bydd y broses yn cael ei chwblhau mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.

Mae symud o ddefnyddio papur i broses ddigidol yn gymhleth, ac mae’n dibynnu ar gyflenwyr TG meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol i ddylunio eu systemau i ganiatáu anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel. Mae nifer o gyflenwyr eraill yn y broses o uwchraddio technoleg eu system fferylliaeth yn barod i’w defnyddio yng Nghymru.

Cefnogwyd y datblygiad hwn gan Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned, a sefydlwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Moddion Digidol ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

“Mae cymeradwyo meddalwedd Positive Solutions ar gyfer rhagnodi electronig yn gyflawniad sylweddol. Mae’n gam arall ymlaen yn ein cenhadaeth i wella darpariaeth ac effeithlonrwydd gofal iechyd ar draws Cymru, er budd cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel ei gilydd.”

Mae symud o’r broses presgripsiynau papur i wasanaeth digidol yn un o’r newidiadau mwyaf ym maes gofal iechyd ers degawdau. Ac er mwyn iddo weithio mae angen i systemau TG meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol fedru anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel.

I ddarganfod mwy ewch i https://igdc.gig.cymru/systemau-a-gwasanaethau/moddion-digidol/