Mae’r dyddiad cau nesaf (4 Gorffennaf 2024) yn prysur agosáu i gyflenwyr systemau fferylliaeth wneud cais am grantiau i'w helpu i ddatblygu technoleg gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) i’w defnyddio yng Nghymru.
Cafodd y Gronfa Arloesi ar gyfer Systemau Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF) – a weinyddir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, ar y cyd â Meddyginiaethau Digidol (a gynhelir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru), ar ran Llywodraeth Cymru – ei sefydlu i helpu Cyflenwyr Systemau Fferylliaeth Gymunedol cymwys i gydymffurfio ag EPS.
Bydd hefyd yn helpu’r cyflenwyr i gyflwyno newidiadau arloesol i’w systemau, a fydd yn arwain at broses ddosbarthu ddi-bapur a hysbysiadau gwthio ar ap newydd GIG Cymru.
Dyddiadau cau pwysig:
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 4 Gorffennaf 2024.
- Dyddiad cau olaf ar gyfer ceisiadau: 3 Hydref 2024.
- Y gronfa’n cau: 31 Mawrth 2025.
- Rhaid cyflwyno pob hawliad erbyn 31 Ionawr 2025.
Dim ond ar ôl bodloni’r meini prawf llwyddiant ar gyfer pob haen (a nodir yn y Ddogfen Ganllaw) y gellir cyflwyno pob hawliad.
Anogir cyflenwyr i wneud cais am gyllid o’r gronfa ac ymgymryd â gweithgareddau sicrwydd cyn gynted â phosibl. Ar ôl dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, mae’n cymryd tua mis i’r panel anfon y llythyr cyllido, sy’n caniatáu i gyflenwr ddechrau ar waith a ariennir. Os bydd cyflenwr yn gwneud cais ym mis Hydref, ni fydd gwaith sy’n cael ei ariannu yn dechrau tan fis Tachwedd, sy’n gadael ychydig dros ddau fis i gwblhau’r gwaith, cael sicrwydd, a chyflwyno’r hawliad i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae hyd y broses sicrwydd yn amrywio o un system i’r llall, ond dyma ganllaw enghreifftiol isod:
- Haen 1: Tri i bedwar mis o leiaf, yn dibynnu ar gyflwyno profion a dogfennau sicrwydd yn brydlon.
- Haen 2: Gwerthuso fesul achos, yn dibynnu ar faint y newid.
- Haen 3: Dau i dri mis yn dibynnu ar gyflwyno profion a dogfennau sicrwydd ar gyfer cynefino yn brydlon.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae’r Gronfa Arloesi ar gyfer Systemau Fferylliaeth Gymunedol yn hollbwysig er mwyn gyrru trawsnewidiad digidol gofal iechyd yng Nghymru. Mae saith fferyllfa yng Nghymru wedi cael cyllid hyd yma, sydd wedi gwella effeithlonrwydd a diogelwch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion yn sylweddol. Rydyn ni’n annog pob busnes cymwys i wneud cais yn gynnar a bod yn rhan o’r daith arloesol hon.”
Mae cyflwyno gwasanaeth presgripsiynau electronig ar hyd a lled Cymru yn rhan allweddol o’r rhaglen trawsnewid Meddyginiaethau Digidol a bydd yn gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaeth yn haws, yn fwy diogel, ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dywedodd Jenny Pugh Jones, yr arweinydd ar gyfer y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig mewn Gofal Sylfaenol:
“Mae’r Gronfa wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac wedi arwain at ymgysylltu rhagorol gan gyflenwyr. Byddem yn annog yr holl gyflenwyr sy’n weddill i wneud cais am gyllid o’r gronfa yn brydlon os ydyn nhw’n dymuno cymryd rhan, ac i gysylltu â’r timau sy’n delio â sicrwydd a phrofi, er mwyn sicrhau bod modd cyflwyno hawliadau’n brydlon.”
Lansiwyd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ym mis Tachwedd 2023, ac mewn lleoliadau eraill yng ngogledd a de Cymru eleni. Bydd y gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth digidol newydd hwn yn genedlaethol yn dechrau’r haf hwn.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut i wneud cais am gyllid o’r gronfa, ewch i’r Gronfa Arloesi ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol.