Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i lawrlwytho ap GIG Cymru er mwyn manteisio ar ystod eang o wasanaethau yn ddigidol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, fod ail-lansio’r ap dwyieithog yn gam pwysig ymlaen o ran trawsnewid gwasanaethau gofal iechyd yn ddigidol.
Wrth siarad yn uwchgynhadledd ddigidol gyntaf y GIG yng Nghymru, amlinellodd y gweinidog fap trywydd 12 mis o hyd ar gyfer yr ap, gan gynnwys y gallu i bobl weld ble maen nhw ar restrau aros y GIG, gweld eu hapwyntiadau ysbyty yn ogystal ag ystod o adnoddau i'w helpu i reoli eu hiechyd wrth iddynt aros am lawdriniaethau.
Dywedodd Sarah Murphy:
"Mae ein gweledigaeth ar gyfer ap GIG Cymru yn ymestyn yn bell y tu hwnt i’r ail-lansio.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd pobl yn gallu gweld yr amseroedd aros ar gyfer eu triniaethau a rheoli apwyntiadau ysbyty i gyd o’u ffôn neu ddyfais. Dim ond dechrau ein trawsnewid digidol yw hwn, wrth inni weithio tuag at greu drws ffrynt digidol i’n gwasanaethau yn y gwasanaeth iechyd a'r maes gofal cymdeithasol."
Yn ogystal â’r ap, sydd wedi bod ar gael i’r cyhoedd yn flaenorol ar ffurf profi beta, mae Gwasanaeth Dilysu Hunaniaeth Cymru hefyd yn cael ei lansio ledled Cymru.
Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn galluogi pobl, nad oes ganddynt gerdyn adnabod â llun sydd wedi'i gyhoeddi gan y llywodraeth, i ddilysu eu hunaniaeth yn eu practis meddyg teulu er mwyn cofrestru ar gyfer ap GIG Cymru.
Gall pobl sydd â cherdyn adnabod â llun sydd wedi'i gyhoeddi gan y llywodraeth ddefnyddio’r gwasanaeth NHS login ar-lein er mwyn cofrestru ar gyfer ap GIG Cymru.
Wrth siarad yn yr uwchgynhadledd ddigidol, galwodd y gweinidog hefyd am fwy o gydweithio rhwng y GIG, Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru er mwyn cyflawni'r trawsnewid digidol sydd ei angen i chwyldroi gofal cleifion.
Dywedodd Sarah Murphy:
"Mae’r uwchgynhadledd hon yn ailosod y botwm ac yn gyfle i ailddatgan cysylltiadau ac ymrwymo i gydweithio mwy ar draws y system i ddarparu’r gwasanaeth gorau i bobl Cymru”