Mae Banc Data SAIL yn falch o gadarnhau y bydd yn cael £4,551,338 o arian cynaliadwyedd fel rhan o fuddsoddiad mawr gwerth £49m a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae Banc Data SAIL wedi cael cryn lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf. Penllanw’r llwyddiant hwnnw oedd yr anrhydedd o ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines. Ond, wrth iddo gamu ymlaen i ail hanner y degawd, nid yw’n fwriad ganddo laesu dwylo.
Mae’r weledigaeth strategol i barhau i ddatblygu SAIL rhwng 2024 – 2030 yn seiliedig ar thema sy’n codi dro ar ôl tro, sef meithrin a chynnal cysylltiadau – gyda chynrychiolwyr y cyhoedd, ei chwaer-raglen a’r darparwr technoleg, SeRP, a rhanddeiliaid pwysig fel Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Wrth ymateb i’r dyfarniad, dywedodd yr Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL:
“Rydym yn ddiolchgar dros ben i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ddarparu’r arian cynaliadwyedd hwn i Fanc Data SAIL dros y pum mlynedd nesaf. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn un o brif arianwyr Banc Data SAIL ers ei sefydlu yn 2007.
“Mae’r arian parhaus yr ydym wedi’i gael dros y 18 mlynedd hynny wedi sicrhau bod modd i SAIL ddod yn un o adnoddau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd sydd wedi ennill clod rhyngwladol ac sy’n rhan annatod o seilwaith gwybodeg cenedlaethol Cymru ac yn arweinydd o ran syniadau ac arloesedd ledled y DU. Mae’r cyfraniadau hyn wedi ein cynorthwyo i greu amgylchedd ymchwil cadarn ac ystwyth yr ymddiriedir ynddo ar gyfer ymchwil o safon byd.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’r sylfaen hon yn sail i ymateb cyflym i ymchwil eang i COVID-19, gan ddarparu gwybodaeth bolisi a oedd yn seiliedig ar ddata i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dro ar ôl tro, SAIL oedd y ganolfan a oedd yn perfformio orau ar draws y pedair gwlad o ran caffael data newydd a chyflawni prosiectau.
“Bydd yr arian a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ein cynorthwyo i fwrw ymlaen â phennod nesaf stori SAIL wrth inni fynd ati i esblygu yn wyneb galwadau ymchwil a hwylusir gan ddeallusrwydd artiffisial, dadansoddeg gyfunol a mathau cynyddol gymhleth o ddata.”
Prif gyflawniadau Banc Data SAIL
Tynnir sylw at lawer o gyflawniadau diweddar Banc Data SAIL yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023-2024.
Dyma rai uchafbwyntiau sy’n werth eu nodi:
Gwobrau
1. Dyfarnwyd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i Fanc Data SAIL ym mis Tachwedd 2023. Mae’r wobr nodedig hon yn cydnabod arloesedd ac effaith neilltuol ym maes addysg ac ymchwil, gan sicrhau bod y byd academaidd a’r cyhoedd yn ehangach yn elwa. Hwn yw’r anrhydedd cenedlaethol mwyaf a ddyfernir ym maes addysg bellach ac addysg uwch yn y DU, ac fe’i rhoddir gan y Goron bob dwy flynedd.
Partneriaethau a chydweithrediadau pwysig
1. Bu i Fanc Data SAIL chwarae rôl hollbwysig o ran ymchwil i COVID-19 fel rhan o raglen gydweithredu Cymru’n Un, gan wasanaethu fel offeryn hanfodol i fonitro trosglwyddiad yr haint ac effeithiau hirdymor y pandemig.
2. Bu i ymchwil a wnaed gan ddefnyddio data SAIL ac a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn The Lancet Public Health bwyso a mesur sut y mae’r dilyniant o ran caffael clefydau yn effeithio ar ddisgwyliad oes, gan daflu goleuni ar glefydau sy’n cydfodoli a’u heffaith ar ganlyniadau cleifion ac ar adnoddau gofal iechyd.
3. Roedd Banc Data SAIL yn rhan o grŵp ymchwil y dyfarnwyd £4.3 miliwn iddo i wneud ymchwil arloesol i salwch meddwl difrifol. Bydd yr arian hwn gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) a’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn hybu dealltwriaeth a diagnosis o salwch meddwl difrifol, a thriniaeth ar ei gyfer, drwy Ganolfan Ymchwil Llwyfan Iechyd Meddwl newydd.
4. Cafodd Banc Data SAIL arian i wella tryloywder o ran mynediad at ddata iechyd, fel rhan o fenter ehangach gan Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK) a’r Cyngor Ymchwil Feddygol. Mae hwn yn gam pwysig tuag at gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd y ceir mynediad at ddata iechyd a’r ffordd y cânt eu defnyddio.
Cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu â nhw
1. Mae Panel Defnyddwyr Banc Data SAIL wedi hen ennill ei blwyf ers ei sefydlu 13 mlynedd yn ôl, ac mae’n dal i fod yn rhan ganolog o’n hymrwymiad i ymgysylltu â’r cyhoedd. Yn ddiweddar, cafodd y panel ei ehangu i gynnwys 20 aelod, ac mae’n dal i groesawu cyfranogwyr newydd i ateb y galw mawr am ei fewnbwn.
2. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, bu’r Panel Defnyddwyr yn cynorthwyo mentrau pwysig, fel Amgylcheddau Ymchwil Data a Dadansoddeg y DU (DARE UK), Labordy Data Rhwydweithiol (NDL) Cymru, Llwyfan Dementia’r DU (DPUK), Serenity, a Banc Data SAIL/Prifysgol Abertawe.
Metrigau craidd (cyfnod adrodd 2023-2024)
• 29 swydd wedi’u creu yng Nghymru, ynghyd â 14 swydd ychwanegol drwy arian uniongyrchol
• 56 cydweithrediad grŵp wedi’u hennill yn ystod y cyfnod adrodd (gwerth £72.2 miliwn)
• 51 cyhoeddiad
• 12 cyfle i gynnwys y cyhoedd wedi’u creu
• 2 ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd wedi’u cynnal
Ceir mwy o wybodaeth am fuddsoddiadau eraill Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yma.