Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn galw am gydweithio â datblygwyr, wrth i adroddiad newydd ddatgelu datblygiadau arloesol at y dyfodol ynghyd â phryderon ynghylch diogelu data ym maes genomeg.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi rhyddhau adroddiad newydd ar genomeg yn ddiweddar sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio dull preifatrwydd drwy ddyluniad er mwyn cefnogi arloesedd wrth ddiogelu preifatrwydd data. Mae'r adroddiad hwn yn archwilio sut y gallai genomeg drawsnewid bywyd bob dydd yn fuan. Gallai ysbytai ddefnyddio DNA i ragweld ac atal clefydau, gallai cwmnïau yswiriant addasu polisïau yn seiliedig ar farcwyr iechyd genetig, a gallai technoleg wisgadwy bersonoli cynlluniau ffitrwydd yn seiliedig ar dueddiadau genetig.
Mae’r adroddiad hefyd yn archwilio’r heriau a’r sefyllfaoedd diogelu data sy’n codi o ganlyniad i’r datblygiadau ym maes genomeg, gan gynnwys gwasanaethau trin data trydydd parti, tryloywder a chydsyniad, gwahaniaethu a rhagfarn, rhannu ymysg teuluoedd, a materion diogelwch.
Mae genomeg yn parhau i ail-siapio gofal iechyd, ac yn ehangu i sectorau eraill megis yswiriant, addysg a gorfodi’r gyfraith. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn galw felly ar ddatblygwyr i edrych ar y canllawiau hyn ac ymuno â’r Regulatory Sandbox. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac yn galluogi datblygwyr i gael arweiniad gan arbenigwyr ar sut i arloesi mewn modd sy’n cyd-fynd â rheolau preifatrwydd ym maes genomeg. Bydd hyn yn helpu’r datblygwyr i droi eu syniadau yn ddatrysiadau dibynadwy sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ar gyfer y diwydiant gofal iechyd a’r tu hwnt.