Mae’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r safon cofnodi tryloywder algorithmig (ATRS), sef fframwaith a gynlluniwyd i wella tryloywder adnoddau deallusrwydd artiffisial ac algorithmig a ddefnyddir ar draws y sector.
Mae’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r safon cofnodi tryloywder algorithmig (ATRS), sef fframwaith a gynlluniwyd i wella tryloywder adnoddau deallusrwydd artiffisial ac algorithmig a ddefnyddir ar draws y sector.
Wrth i adnoddau deallusrwydd artiffisial ddod yn fwyfwy cyffredin ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r fframwaith ATRS yn darparu ffordd safonol o gofnodi a rhannu gwybodaeth ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys pa adnoddau sy’n cael eu defnyddio, ble a sut maen nhw’n gweithio, a’u dylanwad ar wasanaethau – gan ddarparu gwybodaeth glir a hygyrch i’r cyhoedd.
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi argymell bod sefydliadau yn y sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru yn mabwysiadu’r fframwaith ATRS, yn enwedig ar gyfer adnoddau sy’n gwneud y canlynol:
- Chwarae rhan bwysig yn y broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y cyhoedd.
- Rhyngweithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd.
Bydd sefydliadau sy’n defnyddio’r fframwaith ATRS yn cadw cofrestr fyw gyda gwybodaeth allweddol fel:
- Sut mae’r adnodd yn gweithio
- Rôl yr adnodd mewn prosesau gwneud penderfyniadau
- Y broblem y mae’r adnodd i fod i’w datrys
- Y rhesymeg dros ddefnyddio’r adnodd
- Perchnogaeth a chyfrifoldeb yr adnodd
Cymeradwyaeth gan y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial
Mae cymeradwyaeth gan y Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial yn annog sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i fabwysiadu’r fframwaith ATRS fel safon arweiniol. Bydd y fframwaith ATRS yn helpu i wella tryloywder wrth ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar draws y sector, sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei fabwysiadu’n ddiogel ac yn foesegol, a gwella gofal i gleifion drwy ddefnyddio technoleg yn gyfrifol.
Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gydymffurfio â fframwaith ATRS ar gael ar Hwb ATRS Llywodraeth y DU.