Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar ddefnyddio ymyriadau drwy adborth fideo (VFI) i gefnogi plant a’u teuluoedd sydd mewn perygl o niwed.

Mae ymyriadau drwy adborth fideo yn rhoi cyfle i rieni arsylwi a myfyrio ar ryngweithio drwy fideo gyda’u plant, a gweithio gyda gweithiwr proffesiynol i wella'r berthynas.
Ei nod yw gwella’r cyfathrebu o fewn perthnasoedd teuluol a chefnogi plant sydd mewn perygl.
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn cynnal arfarniadau o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol anfeddygol, ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.
Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, mae'r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio ymyriadau drwy adborth fideos i gefnogi plant a'u teuluoedd sydd mewn perygl neu sy'n dioddef niwed.
Fe wnaeth ymchwil Technoleg Iechyd Cymru ddarganfod bod ymyriadau drwy adborth fideo wedi arwain at wella dealltwriaeth rhieni, y rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, ac ymlyniadau.
Yn y cyfamser, adroddodd rhieni a ddefnyddiodd ymyriadau drwy adborth fideo welliannau yn eu hyder fel rhieni ac yn eu perthnasoedd teuluol.