Trydydd parti

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar lawdriniaeth thorasig gyda chymorth robot (RATS). Gellir defnyddio RATS i gael gwared ar ran neu'r cyfan o'r ysgyfaint heintiedig mewn pobl sydd â chanser neu gyflyrau eraill.

A surgeon's hand picking up a tool

Yn ystod y driniaeth, mae'r ddyfais robotig yn cael ei rheoli gan lawfeddyg, ac yn cymryd drosodd symudiadau dwylo a bysedd y llawfeddyg ei hun.

Cynigiwyd y gall RATS alluogi'r llawdriniaeth i gael ei pherfformio gyda mwy o gywirdeb ar rannau bach o'r ysgyfaint a fyddai fel arall, yn anodd i'r llawfeddyg eu cyrraedd.

Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, mae'r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod ansicrwydd ynghylch effeithiolrwydd clinigol tymor byr a hir RATS o'i gymharu â'r safonau gofal presennol - llawdriniaeth thorasig agored neu gyda chymorth fideo. Mae'r canllaw yn nodi nad yw'r dystiolaeth bresennol yn cefnogi mabwysiadu RATS yn rheolaidd yng Nghymru.

Darllenwch y canllaw yn llawn.