Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw sy'n argymell mabwysiadu synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol (PAPS) yn rheolaidd i fonitro triniaeth pobl â methiant cronig y galon yng Nghymru.
Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, mae tystiolaeth yn dangos bod defnyddio PAPS yn lleihau nifer y bobl sydd yn gorfod mynd i’r ysbyty ar gyfer methiant y galon, ac y gallai wella ansawdd bywyd pobl.
Mae'r synwyryddion, sydd yn mesur pwysedd llif y gwaed yn y rhydwelïau, yn cael eu rhoi yn rhydweli yr ysgyfaint chwith. Mae darlleniadau yn cael eu cymryd o'r synhwyrydd gan glustog arbennig y mae'r person sydd yn cael ei drin yn gorwedd i lawr arno o leiaf unwaith y diwrnod.
Gall cynnydd mewn pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol fod yn arwydd o rybudd cynnar i bobl gael eu trin am fethiant cronig y galon. Os gellir canfod y cynnydd hwn mewn pwysau, yna gellir cyflwyno neu addasu triniaeth i helpu i reoli'r cyflwr.