Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd sy'n cefnogi mabwysiadu adnodd asesu ar gyfer pobl sydd yn derbyn triniaeth ar gyfer seicosis a sgitsoffrenia yng Nghymru.
Mae DIALOG+ yn adnodd asesu rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, sy'n galluogi pobl sy'n derbyn triniaeth ar gyfer seicosis a sgitsoffrenia i raddio eu lefelau boddhad â gwahanol feysydd o fywyd a gyda'u triniaeth. Mae hyn yn cael ei wneud gyda chymorth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yna, gellir ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu nodau triniaeth yn y dyfodol a monitro eu cynnydd.
Yn ôl canllaw HTW, mae DIALOG+ yn gallu gwella ansawdd bywyd cyffredinol o'i gymharu â gofal safonol. Fodd bynnag, mae ei effaith ar symptomau seicolegol, y boddhad o ran triniaeth, a mynd i'r afael ag anghenion iechyd a chymdeithasol yn ansicr.
Canfu HTW fod tystiolaeth economaidd yn dangos nad yw DIALOG+ yn debygol o gynyddu costau iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol o'i gymharu â gofal safonol.
Yn gyffredinol, mae'r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu DIALOG+ yn rheolaidd ar gyfer pobl sy'n derbyn triniaeth ar gyfer seicosis a sgitsoffrenia mewn lleoliad iechyd meddwl eilaidd.