Mae ein Cyfeiriadur Arloesedd i Gymru yn fyw! Gallwch chi nawr chwilio a hidlo’n rhwydd drwy restr helaeth o sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio yn yr ecosystem arloesi ddeinamig hon.
Gan gynnwys cwmnïau gwyddorau bywyd sy’n darparu technoleg arloesol, a sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n cynnig gwasanaethau cymorth hanfodol, mae gan Gymru dirwedd arloesi gymhleth a chyfoethog. Fodd bynnag, mae’r nifer enfawr o sefydliadau sydd ar gael yn gallu ei gwneud hi’n anodd ei llywio.
Mae ein Cyfeiriadur Arloesedd yn eich galluogi i chwilio a dod o hyd i’r wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnoch.
Mae’r Cyfeiriadur Arloesedd ar gael am ddim ac mae’n cynnwys dros 260 o sefydliadau gwyddorau bywyd yng Nghymru, sy’n cynnwys:
- Sefydliadau cymorth arloesi sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
- Sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys Byrddau Iechyd, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a chyrff hyd braich
- Sefydliadau academaidd
- Sefydliadau’r llywodraeth fel Banc Datblygu Cymru
Mae pob cofnod yn cynnwys crynodeb o’r sefydliad a’i bwrpas, a gellir ei hidlo gyda pharamedrau gan gynnwys lleoliad, sector, gwasanaethau ac arbenigeddau.
Mae’r Cyfeiriadur Arloesedd yn y cam BETA ar hyn o bryd a bydd yn cael ei ddiweddaru a’i ehangu’n barhaus i gyd-fynd â’r dirwedd gwyddorau bywyd sy’n datblygu yng Nghymru.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, ein Prif Swyddog Gweithredol:
“Mae Cymru’n gartref i lu o sefydliadau gwyddorau bywyd anhygoel sy’n helpu i sbarduno arloesedd hanfodol i reng flaen gofal. Mae ein Cyfeiriadur Arloesedd newydd yn adlewyrchu hyn, ac yn eich cyfeirio at y bobl iawn – p’un a oes angen cymorth arnoch gyda chyllid, gweithgynhyrchu, arweiniad neu ymchwil.”
Tarwch olwg ar y Cyfeiriadur Arloesedd heddiw.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gael eich cynnwys yn y cyfeiriadur, gweler Cylch Gorchwyl.