Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dod at ei gilydd i sbarduno datblygiadau gofal iechyd yng Nghymru drwy arloesi digidol.
Drwy gydweithio i ddatblygu a defnyddio atebion iechyd digidol, ein nod yw rhoi Cymru ar flaen y gad yn y maes hwn, gan wella canlyniadau gofal iechyd a chefnogi twf yr economi ddigidol.
Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu rhaglen ddeinamig sy'n hybu cydweithio rhwng y byd academaidd, diwydiant, darparwyr gofal iechyd a llunwyr polisïau, gan dynnu sylw at werth arwain agweddau, rhannu arferion gorau, cydnabod rhagoriaeth, a dangos manteision mesuradwy.
Nod y bartneriaeth hon yw mynd i’r afael â nifer o heriau allweddol ym maes gofal iechyd, gan gynnwys:
- Trawsnewid digidol ym maes gofal iechyd – grymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy ddarparu mynediad at atebion iechyd digidol arloesol, gan roi Cymru ar flaen y gad mewn trawsnewid gofal iechyd.
- Cydweithio ar draws sectorau – bydd y bartneriaeth yn meithrin diwylliant o gydweithio, gan ddod ag amrywiol randdeiliaid at ei gilydd i gyd-greu technolegau iechyd digidol effeithiol a’u rhoi ar waith.
- Cryfhau’r economi ddigidol – nid yw iechyd digidol yn ymwneud â gwella canlyniadau gofal iechyd yn unig, mae’n ymwneud â hybu twf economaidd hefyd. Bydd y bartneriaeth yn cyfrannu at greu swyddi, datblygu sgiliau a chyfleoedd busnes yng Nghymru, gan wella’r economi yng Nghymru.
- Gwella canlyniadau cleifion drwy ddata – drwy ddefnyddio pŵer data mawr, nod y cydweithrediad hwn yw cryfhau sgiliau digidol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, gan eu galluogi i fodloni gofynion gofal iechyd sy'n esblygu a sbarduno gwelliannau mewn gofal personol a chanlyniadau cleifion.
Digwyddiadau sydd ar y gweill:
Fel rhan o’r bartneriaeth hon, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau sy’n ceisio hybu cyfnewid gwybodaeth ac ysbrydoli arloesedd ym maes iechyd a gofal digidol. Bydd ein digwyddiad nesaf, “Data Mawr, Darlun Mwy” yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2025, ac yn canolbwyntio ar sut mae data mawr yn siapio dyfodol iechyd a gofal.
“Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r bartneriaeth hon yn creu amgylchedd deinamig a chydweithredol sy’n ein galluogi i sbarduno atebion arloesol, mynd i’r afael â heriau gofal iechyd dybryd, a gwella canlyniadau i gleifion a gweithwyr proffesiynol.” – Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
“Y bartneriaeth hon yw ein hymrwymiad ar y cyd i ddatblygu atebion iechyd digidol sy’n gwella gofal cleifion ledled Cymru. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sbarduno’r gwaith o ddatblygu offer arloesol sydd o fudd i bobl Cymru.” – Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth ac am y digwyddiadau sydd ar y gweill, anfonwch e-bost atom yn hello@lshubwales.com, neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.