Mae cwmni o Gymru, KeepMeWell Ltd, wedi datblygu meddalwedd holistaidd bwrpasol ar gyfer rheoli dyfeisiau meddygol a chynhyrchion cyffuriau, a roddir i gleifion gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithgynhyrchwyr.

Mae Device-Link yn gwneud yn siŵr bod cleifion yn ddiogel ac yn rhoi gwybod iddynt am ddiweddariadau, rhybuddion ac achosion o adalw. Mae hefyd yn cefnogi gweithgynhyrchwyr gyda’u gofynion rheoleiddiol fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw golwg ar ddyfeisiau meddygol a chynhyrchion cyffuriau ar ôl y farchnad.
Ar hyn o bryd, mae Device-Link yn cael ei defnyddio yn y GIG gan Wasanaeth Imiwnoddiffygiant Cymru Gyfan. Yn draddodiadol, byddai cleifion yn cael taflen bapur i gofnodi manylion eu cyffuriau plasma trwytho ac yna byddent yn ei chyflwyno drwy’r system bost er mwyn i’r tîm clinigol ei monitro a chadw cofnodion ôl-weithredol. Ar ben hynny, mae gofynion cyfreithiol statudol ar waith ar gyfer olrhain a monitro cynhyrchion gwaed a chyffuriau a roddir i gleifion. Fodd bynnag, roedd y dull presennol o adalw a chwilio am gofnodion cleifion ar bapur yn anymarferol, yn llafurddwys ac yn anghynaliadwy i’r tîm clinigol allu parhau i’w fonitro’n ddiogel ac yn effeithiol. Ar ben hynny, byddai’n rhaid cysylltu â phob claf unigol i roi gwybod am unrhyw rybuddion.
Creodd digwyddiadau enbyd, fel Creutzfeldt-Jakob a’r Ymchwiliad Cenedlaethol i Waed Heintiedig, oblygiadau difrifol i gleifion a oedd yn derbyn cynhyrchion cyffuriau sy’n deillio o blasma trwytho, gan achosi niwed di-droi’n-ôl o bosibl. Roedd effaith y digwyddiadau hyn yn gofyn am gael mecanwaith ar waith ar gyfer ‘edrych yn ôl’, a oedd bron yn amhosibl ei gyflawni.
Mae’r cynnydd mewn hunan-weinyddiaeth a chynlluniau ysbyty gartref wedi arwain at gynnydd yn y defnydd o feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol gartref. Mae hyn wedi rhoi’r cyfrifoldeb ar dimau clinigol i oruchwylio a chadw golwg well ar ddyfeisiau meddygol a chynhyrchion cyffuriau.
Cydweithiodd KeepMeWell Ltd â Gwasanaeth Imiwnoddiffygiant Cymru Gyfan i dreialu’r defnydd o’u meddalwedd, Device-Link, er mwyn gwella’r broses o fonitro cleifion sy’n cael cyffuriau imiwnotherapi a’u diogelwch cyffredinol.
Dyma swyddogaethau a nodweddion Device-Link:
- Llwyfan cynaliadwy a graddadwy iawn sy’n gallu rheoli sawl math o ddyfais
- Cydymffurfio â Rheoliadau Diagnosteg In Vitro/Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol gorfodol
- Gwella effeithlonrwydd amser ac adnoddau ar gyfer gweithdrefnau gwyliadwriaeth ar ôl y farchnad
- Hwyluso gwelliannau rhagweithiol i ddefnyddwyr adeg y profi
- Casglu data a adroddir gan ddefnyddwyr drwy holiaduron/arolygon y farchnad
- Adborth amser real yn yr ap a’r dangosfwrdd cysylltiedig
- Rhannu data â rhanddeiliaid ar unwaith
- Hwyluso hysbysiadau/Hysbysiadau Diogelwch Maes/diweddariadau i ddefnyddwyr ynghylch dyfeisiau
- Monitro dyddiadau gwarantau/dyddiadau dod i ben cyffuriau ar gyfer dyfeisiau
- Cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch data a deddfwriaeth preifatrwydd data/cydymffurfio â’r GDPR.
Mae Device-Link wedi trawsnewid ymarfer clinigol drwy wella goruchwyliaeth a diogelwch gwaith monitro meddyginiaethau cleifion â chlefydau prin, sy’n cael eu rheoli gan y tîm clinigol. Mae’n cynnig dull mwy effeithiol o fonitro cleifion mewn amser real, gan greu ateb cynaliadwy.
Mae'r tîm clinigol hefyd yn bwriadu defnyddio Device-Link i fonitro cleifion sydd ag anhwylder genetig etifeddol prin, Angiodema Etifeddol. Gall hyn fod yn fygythiad i fywyd os na chaiff ei drin. Felly, mae cydymffurfiaeth cleifion a rheolaeth glinigol amserol yn hanfodol i fonitro’r cleifion hyn.