Mae platfform digidol i gefnogi pobl sy’n byw gyda diabetes teip 2 wedi cael ei argymell i’w ddefnyddio yng Nghymru.

Mae platfform digidol i gefnogi pobl sy’n byw gyda diabetes teip 2 wedi cael ei argymell i’w ddefnyddio yng Nghymru.
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw sy’n cefnogi mabwysiadu platfform digidol Diabetes MyWay fel mater o drefn.
Mae Diabetes MyWay yn darparu rheolaeth, addysg a chymorth wedi’i bersonoli i bobl sydd â diabetes teip 2.
Mae wedi'i gysylltu â gwell rheolaeth glycemig o'i gymharu â gofal safonol ar gyfer pobl sydd â diabetes teip 2 nad oes angen inswlin arnynt.
Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, mae Diabetes MyWay yn gost-effeithiol hefyd o'i gymharu â gofal safonol i bobl sydd â diabetes teip 2 nad oes angen inswlin arnynt.
Mae’r canllaw yn nodi nad yw’r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio platfformau digidol eraill ar gyfer pobl sydd â diabetes teip 2, ac mae’n argymell ymchwil pellach ar y defnydd o blatfformau digidol eraill.
Mae hefyd yn nodi nad yw’r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio platfformau digidol fel mater o drefn ar gyfer daparu rheolaeth bersonol, addysg a chymorth i bobl sydd â diabetes teip 1. Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymell cynnal ymchwil pellach ar y defnydd o blatfformau digidol i gefnogi pobl sydd â diabetes teip 1.