Trydydd parti

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd sy'n cefnogi defnyddio endosgopïau â Chymorth Deallusrwydd Artiffisial i ganfod canser yn y llwybr gastroberfeddol isaf a chyflyrau cyn-ganseraidd.

Two clinicians talking

Mae colonosgopi CADe (computer aided detection) yn endosgopi o'r colon cyfan, sy’n defnyddio technoleg AI i gynorthwyo endosgopyddion i ganfod canserau gastroberfeddol isaf a briwiau cyn-ganseraidd. Yn ystod y driniaeth, mae'r system CADe yn creu bocs  o amgylch unrhyw feysydd sy'n peri pryder ac yn rhoi gwybod i’r endosgopydd.

Yn ôl tystiolaeth a nodwyd gan Technoleg Iechyd Cymru, mae colonosgopïau sy'n defnyddio CADe yn gysylltiedig â gwell prosesau canfod adenomas, polypau a briwiau danheddog o’i gymharu â cholonosgopïau safonol. Fe wnaeth Technoleg Iechyd Cymru ddod i'r casgliad hefyd bod y dechnoleg yn gost-effeithiol o'i chymharu â cholonosgopi safonol.

Mae'r canllaw yn cefnogi mabwysiadu colonosgopi CADe fel mater o drefn ar gyfer canfod canser yn y llwybr gastroberfeddol isaf a chyflyrau cyn-ganseraidd. Mae hefyd yn argymell casglu data ynghylch gweithrediad ac effeithiolrwydd CADe yn y byd go iawn.

Darllen y canllaw yn llawn.