Trydydd parti

Mae canllaw newydd wedi cael ei gyhoeddi gan Technoleg Iechyd Cymru ar ddefnyddio systemau rheoli clwyfau digidol. 

An elderly woman having a wound dressed

Mae Systemau Rheoli Clwyfau Digidol Integredig (DWMS) yn defnyddio dyfais ddigidol i dynnu lluniau o glwyf mewn 3D, sy'n galluogi meddalwedd i fesur y clwyf a chasglu gwybodaeth arall amdano. Yna, caiff yr wybodaeth ei storio fel y gellir ei gweld gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy'n golygu y gall y clwyf gael ei weld a'i asesu heb fod angen apwyntiad. 

Cynigiwyd bod y dechnoleg yn caniatáu i gymryd mesuriadau mwy cywir o'r clwyf na thrwy ddefnyddio pren mesur neu dâp. 

Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, gall systemau rheoli clwyfau digidol fesur arwynebedd clwyf yn gywir, ond nid y dyfnder na'r cyfaint, ar gyfer rhai clwyfau ond nid pob clwyf.

 

Mae'r canllaw yn nodi nad oes digon o dystiolaeth ar sut y gall y dechnoleg effeithio ar reoli clwyfau a chanlyniadau clinigol i gleifion. 

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymell y dylid gwneud ymchwil pellach i archwilio'r ansicrwydd mewn perthynas ag effeithiolrwydd clinigol a chost y dechnoleg. 

Darllenwch y canllaw yn llawn.