Mae canllaw newydd wedi cael ei gyhoeddi, sy’n argymell math o radiotherapi i drin pobl sydd â chanser y rectwm sydd yn y cam cynnar yng Nghymru.
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar CXB (Contact X-ray Brachytherapy) ynni isel - math o radiotherapi y gellir ei roi ochr yn ochr â chemoradiotherapi safonol.
Mae canser y rectwm fel arfer yn cael ei drin â llawdriniaeth. Gellir rhoi chemoradiotherapi cyn neu ar ôl llawdriniaeth.
I bobl sydd â chanser y rectwm sydd yn y cam cynnar, mae cael CXB ochr yn ochr â chemoradiotherapi yn gweithredu fel hwb i radiotherapi, a allai wella eu canlyniadau digon iddynt beidio â bod angen llawdriniaeth. Byddai hyn yn golygu osgoi sgîl-effeithiau llawdriniaeth, fel stoma.
Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, mae'r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio CXB yn rheolaidd yn ogystal â chemoradiotherapi i bobl sydd â chanser y rectwm yn y cam cynnar, ac sydd yn addas i gael llawdriniaeth.
Canfu fod defnyddio CXB yn cynyddu’r cyfraddau ymateb i driniaeth, yn atal niwed i organau, ac yn lleihau'r angen am lawdriniaeth, o'i gymharu â defnyddio radiotherapi pelydr allanol ochr yn ochr â chemoradiotherapi.
Canfu modelu economaidd Technoleg Iechyd Cymru fod CXB yn gost-effeithiol hefyd.