Trydydd parti
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar berfformio llawdriniaeth gynaecolegol anfalaen gyda chymorth robot.

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar berfformio llawdriniaeth gynaecolegol anfalaen gyda chymorth robot.
Mewn llawdriniaeth gyda chymorth robot, mae llawfeddyg yn rheoli robot i berfformio llawdriniaeth gan ddefnyddio offerynnau bychain. Mae'r llawfeddyg yn rheoli'r offerynnau o bell gan ddefnyddio braich robotig.
Yn ôl canllaw Technoleg Iechyd Cymru, mae'r llawdriniaeth yn dangos addewid ar gyfer cyflyrau gynaecolegol anfalaen, fodd bynnag nid yw'r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.