Mae tîm y prosiect QuicDNA yn chwilio am gyfleoedd newydd i gydweithio er mwyn ehangu profion ctDNA ledled Cymru.
Gyda’r nod o wella canlyniadau canser yr ysgyfaint, mae QuicDNA wedi gwella’r diagnosis o ganser yr ysgyfaint yng Nghymru drwy integreiddio profion ctDNA (biopsïau hylifol) yn gynharach yn y llwybr. Mae hyn wedi galluogi dadansoddiad genomig cyflymach, penderfyniadau manylach am driniaethau, a chanlyniadau gwell i gleifion.
Cafodd y prosiect ei lansio yn 2022, ac mae wedi cyflawni datblygiadau sylweddol ar gyfer diagnosteg canser yr ysgyfaint, gyda QuicDNA yn weithredol erbyn hyn yn yr holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru. Mae’r arloesedd hwn eisoes wedi dangos effaith a gwerth i gleifion a’r gwasanaeth iechyd, gyda gwerthusiad pellach yn mynd i gael ei gasglu i gefnogi gwasanaeth wedi’i gomisiynu’n llawn yn 2025.
Mae cynnig busnes newydd wrthi’n cael ei ddatblygu i ehangu’r prosiect QuicDNA yn genedlaethol i fathau eraill o ganser o dan raglen newydd, sef ‘QuicDNA Max’. Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect canser yr ysgyfaint QuicDNA, y nod yw integreiddio’r defnydd o fiopsi hylifol i fathau eraill o diwmorau solet, gan wneud biopsïau hylifol yn rhan safonol o’r pecyn clinigol. Fel rhan o’i nodau, bydd QuicDNA Max yn helpu i baratoi’r system ar gyfer ei gyflwyno ar raddfa fwy, drwy feithrin addysg a chydweithio, ar yr un pryd â datblygu cronfa ddata genomig sy’n cael ei gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial, i wella canlyniadau cleifion a sbarduno arloesedd ac ymchwil yn GIG Cymru yn y dyfodol.
Byddwch yn rhan: Cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth
Er mwyn cyflawni’r nod uchelgeisiol hwn, mae QuicDNA yn chwilio am sefydliadau newydd a phresennol i weithio mewn partneriaeth mewn ymdrech gydweithredol i drawsnewid y llwybr diagnostig. Mae dull cydweithredol presennol y prosiect wedi arwain QuicDNA i ennill nifer o wobrau gofal iechyd, gan dynnu sylw at bŵer cydweithio traws-sector wrth sbarduno arloesedd a newid systematig.
Bydd yn ofynnol i sefydliadau sy’n ceisio partneriaeth lofnodi ‘cytundeb peidio â datgelu’ (NDA). Bydd rhai o bartneriaid presennol QuicDNA yn dal i gael eu cynnwys o dan yr NDA.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru drwy hello@lshubwales.com.