Roedd hi’n noson lwyddiannus i QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales. Daeth y rhaglen i’r brig yn y categori ‘GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant ’. Cafodd QuicDNA ei gydnabod am ei ymdrechion i ddod â phartneriaid ym maes diwydiant at ei gilydd i gefnogi’r gwaith o weithredu a gwerthuso technoleg biopsi hylif arloesol ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint ar draws Byrddau Iechyd yng Nghymru.
Mae biopsïau hylif yn cynnwys prawf gwaed i ddarparu dadansoddiad genomig manwl er mwyn llywio triniaethau canser wedi’u targedu. Maen nhw’n ddewis syml ac anymwthiol yn lle biopsïau tiwmor a gellir eu cynnal yn gynnar yn y llwybr diagnostig. Y gobaith yw y byddant yn caniatáu i gleifion ddechrau triniaeth yn gynt. Gallai tystiolaeth a gesglir yn y gwerthusiad hwn olygu y gallai biopsïau hylif ddod yn safon gofal ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Mae amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant wedi cefnogi’r prosiect, gan gynnwys technoleg Illumina, Amgen, AstraZeneca, Bayer a Lilly. Ymysg y sefydliadau eraill sy’n rhan o’r fenter draws-sector hon mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Tenovus Gofal Canser, Moondance Cancer Initiative, nifer o Fyrddau Iechyd Cymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil, Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Roedd y wobr hon yn cydnabod ei ddull arloesol o gydweithio ar draws sectorau a sut mae’n helpu i drawsnewid y GIG a gwella canlyniadau i gleifion.
Bellach yn ei 18fed flwyddyn, mae Gwobrau Arloesi MediWales yn dathlu’r gorau o’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Maen nhw’n dod ag aelodau o’r diwydiant, y byd academaidd a staff iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i gydnabod ei gyflawniadau ac i dynnu sylw at effaith arloesi. .
Dywedodd Siân Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy yn AWMGS:
“Rwyf yn hynod ddiolchgar bod y Prosiect QuicDNA wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr iechyd ‘GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant’ yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023. Mae’n anrhydedd mawr i mi fod QuicDNA yn cael ei gydnabod fel hyn.
Mae prosiect QuicDNA yn brosiect gwirioneddol gydweithredol rhwng y GIG, y trydydd sector, y sector fferyllol, diwydiant, y brifysgol a chleifion. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect rydym mor frwdfrydig yn ei gylch hefyd yn un y mae eraill yn gweld gwerth ynddo. Rydym yn gobeithio bydd y gydnabyddiaeth hon gan Wobrau Arloesi MediWales yn ysbrydoliaeth i eraill ym maes gofal iechyd i gydweithio’n agosach â diwydiant. Rydym yn hynod falch y bydd y prosiect yn galluogi cleifion sydd â chanser yr ysgyfaint i gael triniaethau yn gyflymach yn y dyfodol o fewn y GIG.’
Dywedodd Magda Meissner, Arweinydd Biopsi Hylif Clinigol yn AWMGS:
"Rydw i’n gwerthfawrogi’n fawr y ffaith fod QuicDNA wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi MediWales. Mae'r prosiect hwn yn dangos sut gall partneriaid o sawl sector gwahanol - gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y GIG, y trydydd sector, a chleifion - gydweithio'n effeithiol. Nod QuicDNA yw cael effaith gadarnhaol ac ystyrlon ar y gwaith o ddiagnosio a thrin cleifion â chanser yr ysgyfaint, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael triniaeth gyflymach a mwy effeithiol."
Dywedodd Mark Robinson, Rheolwr Cyffredinol y DU ac Iwerddon, Illumina:
"Rydym ni yma yn Illumina wrth ein boddau bod astudiaeth QuicDNA wedi cael ei chydnabod unwaith eto am ei dull gwirioneddol gydweithredol o fynd ati yng nghyswllt yr astudiaeth bwysig hon sy'n canolbwyntio ar brofi am ganser yr ysgyfaint drwy ddefnyddio biopsïau hylif. Fel cwmni, rydym wedi ymrwymo i gydweithio i ddatblygu’r maes meddygaeth genomig sydd â'r potensial i achub bywydau drwy wneud profion genomig yn rhan annatod o ofal arferol.’"
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae QuicDNA yn enghraifft wych o sut gall cydweithio ar draws sectorau sbarduno arloesedd hanfodol ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymfalchïo yn ein rôl fel partner yn y prosiect hwn, sydd â’r potensial i gyflymu triniaeth canser i gleifion yng Nghymru ac i wella canlyniadau. Ac wrth gwrs, rydym yn falch iawn o weld y rhaglen yn cael ei chydnabod yng Ngwobrau Arloesi MediWales eleni.”
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, ewch i dudalen prosiect Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.