Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae’r astudiaeth QuicDNA bellach wedi’i chyflwyno mewn chwech Bwrdd Iechyd yng Nghymru ar ôl gwneud datblygiadau pwysig o ran diagnosis canser yr ysgyfaint

QuicDNA meeting partners

Mae’r garreg filltir hon yn gam enfawr ymlaen i gleifion canser yr ysgyfaint ledled y wlad sy’n eu galluogi i gael mynediad at dechnoleg biopsi hylif newydd gyda’r potensial i drawsnewid llwybrau gofal cleifion o ran diagnosis a thriniaeth.

Mae’r prosiect hwn, a gychwynnwyd ddechrau 2023, yn canolbwyntio ar gynnwys profion ctDNA anymwthiol oddi mewn i lwybr diagnostig canser yr ysgyfaint. Drwy ddadansoddi sampl gwaed syml, mae biopsïau hylif yn cynnig dewis llai ymwthiol a chyflymach na phrofion genomig biopsïau meinwe traddodiadol. Mae’r dull hwn yn cyflymu penderfyniadau ynghylch diagnosis a thriniaeth, gyda’r nod o wella canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.

Mae’r prosiect yn casglu tystiolaeth ar lawr gwlad o werth ac effaith profion biopsi hylif mewn llwybrau trin canser, gan gyfrannu at Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Cynhaliwyd y prosiect yn wreiddiol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac yn fuan wedyn ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, ond bellach mae’r astudiaeth QuicDNA wedi ehangu i bedwar ardal newydd arall: Byrddau Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda, Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr. Roedd y Ganolfan Treialon Ymchwil yng Nghaerdydd yn allweddol o ran sefydlu a chynnal yr astudiaeth, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflwyno’n ddidrafferth ar draws yr ardaloedd. Wrth ehangu’r astudiaeth i ragor o ardaloedd, bydd modd i gleifion ledled Cymru gael budd o’r dechnoleg arloesol hon.

Ymdrechion ar y cyd ac amcanion i’r dyfodol:

Mae’r prosiect QuicDNA yn enghraifft o ymdrech ar y cyd i arloesi ym maes gofal iechyd yng Nghymru, gyda phartneriaid o ofal iechyd, diwydiant a’r llywodraeth yn cydweithio i drawsnewid llwybrau trin canser.

Mae Craig Maxwell, cyn brif swyddog masnachol gyda thwrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad ac Undeb Rygbi Cymru, wedi chwarae rhan allweddol yn cefnogi’r astudiaeth QuicDNA. Ac yntau wedi cael ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint cam IV ym mis Medi 2022, mae Craig wedi codi llawer o arian ac wedi sefydlu Cronfa Genomeg y Teulu Maxwell i gefnogi datblygiadau pellach ac arloesedd genomeg yng Nghymru.

“Dyma’r dyfodol o ran diagnosis canser, a diolch i’r cynllun hwn ac eraill, gall Cymru fod mewn safle gwych i ddarparu hyn a gwella’r canlyniadau i’n poblogaeth - oherwydd maen nhw’n haeddu hynny.” - Yr Athro Tom Crosby, Oncolegydd Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru.

‘A finnau wedi gweithio 33 mlynedd mewn labordy genomeg, dydw i erioed wedi cwrdd ag eiriolydd mor ysbrydoledig dros y gwasanaethau canser genomeg a ddarperir yn GIG Cymru na Craig Maxwell. Mae ei ymdrechion codi arian wedi bod yn hanfodol i allu ehangu’r astudiaeth i bob un o’r chwe bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae QuicDNA yn brosiect chwyldroadol a fydd yn hwyluso’r gwaith clinigol o gynnal profion biopsi hylif mewn achosion lle mae amheuaeth o ganser. Bydd hyn yn cyflymu mynediad at driniaethau wedi’u targedu er mwyn atal y clefyd rhag gwaethygu a gwella cyfle’r claf o oroesi.” - Sian Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Labordy Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS).

“Mae stori Craig Maxwell yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae ei frwydr bersonol ar ôl iddo gael diagnosis o ganser yr ysgyfaint wedi tanio awydd ynddo i gefnogi’r astudiaeth QuicDNA, gan sicrhau bod cleifion eraill yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynt. Mae ymdrechion Craig wedi bod yn allweddol o ran cyflwyno’r astudiaeth QuicDNA ledled Cymru. Nod yr astudiaeth yw defnyddio biopsïau hylif i gwtogi’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, gan arbed bywydau gobeithio. Mae Craig hefyd wedi ein hysbrydoli i archwilio biopsïau hylif ar gyfer mathau eraill o ganser.” - Dr Magda Meissner - Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre ac Uwch-ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerydd, Prif Ymchwilydd yr Astudiaeth QuicDNA

“Mae wedi bod yn anrhydedd anhygoel i fod yn rhan fechan o’r tîm QuicDNA, yn gweithio i gyflwyno diagnosis cyflymach i gleifion fel fi yn y dyfodol. Cymrodd 78 diwrnod i fi gael diagnosis o ganser ar fy nhiwmor, ond doedd dim bai ar neb am hynny. Yn ystod y 78 diwrnod hynny, doeddwn i ddim yn gallu cario ymlaen oherwydd fy mod yn poeni am beth oedd o’m blaen. Doeddwn i chwaith ddim wedi cael unrhyw driniaeth ar gyfer fy nghlefyd. Gyda’r dechnoleg newydd hon, gall teuluoedd sydd yn yr un sefyllfa â fi elwa o gael diagnosis a thriniaeth yn gynt, fel eu bod yn gallu mwynhau’r amser gwerthfawr gyda’i gilydd. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft go-iawn o bobl ymroddgar o wahanol adrannau o’r system gofal iechyd yn dod ynghyd i ddatrys problem. Po fwyaf y gallwn ni gydweithio i fynd i'r afael â’r clefyd hwn, y gorau bydd y dyfodol i bawb.” - Craig Maxwell (cynrychiolydd cleifion ar grŵp llywio QuicDNA)

Manteision allweddol:

  • Canfod a thrin y canser yn gynnar: Mae biopsïau hylif anymwthiol ar gyfer canser yr ysgyfaint yn galluogi cynnal profion yn gynharach ar y llwybr canser ac yn cyflymu’r broses penderfyniadau ar gyfer triniaethau wedi’u targedu. Mae’n bosib y gall hyn arwain at wella’r canlyniadau i gleifion a chyfraddau goroesi.
  • Casglu tystiolaeth ar lawr gwlad: Mae’r prosiect hwn yn gwerthuso tystiolaeth a gesglir ar lawr gwlad o werth ac effaith profion biopsi hylif yn y llwybr trin canser, gan ddilyn egwyddorion Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth.
  • Cymru ar flaen y gad: Drwy fabwysiadu dulliau genomeg arloesol, mae Cymru ar flaen y gad o ran darparu triniaethau gofal iechyd ar y rheng flaen a all achub bywydau.
  • Trawsnewid gwasanaethau diagnostig: Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid amlddisgyblaethol ym maes gofal iechyd, diwydiant ac eraill, wedi ymrwymo i drawsnewid gwasanaethau diagnostig yng Nghymru drwy bwyso a mesur technolegau newydd, megis biopsïau hylif.

Yn y dyfodol, bydd y data gesglir yn caniatáu gwerthusiad economeg iechyd, gyda’r nod y bydd GIG Cymru yn comisiynu ctDNA yn rheolaidd erbyn 2025. Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn ceisio gwella diagnosis canser yr ysgyfaint, ond hefyd yn braenaru’r tir ar gyfer defnyddio biopsi hylif gyda mathau eraill o ganser, gan arwain at gamau trawsnewidiol o ran gofal canser. Darllenwch fwy am amserlen y prosiect QuicDNA yma.