Ym mis Medi 2022, cafodd Craig Maxwell ddiagnosis o ganser genetig yr ysgyfaint na ellir ei wella (cam 4). Roedd Craig yn benderfynol o wneud rhywbeth am y peth, ac fe ddechreuodd ar gyfres o heriau codi arian gan ragori ar y targed cychwynnol o £300,000 a chodi cyfanswm o £1,300,000 i gefnogi Elusen Canser Felindre a QuicDNA prosiect (genomig canser).
Nod QuicDNA yw chwyldroi diagnosis a thriniaeth canser yr ysgyfaint gan ddefnyddio prawf gwaed syml ar gyfer dadansoddi genomig. Nod y biopsi hylif yw cyflymu’r broses o wneud penderfyniadau am driniaeth drwy ddarparu gwybodaeth genomig gynnar er mwyn gallu rhoi triniaeth ar waith yn gynt.
Mae canser yr ysgyfaint yn her iechyd sylweddol yng Nghymru, gyda’r rhan fwyaf o gleifion yn cael diagnosis pan fydd y canser wedi datblygu. Mae’r prosiect yn cynnwys 1,200 o gleifion ar draws nifer o fyrddau iechyd yng Nghymru yr amheuir eu bod yn dioddef o ganser yr ysgyfaint.
Dros y 18 mis diwethaf, mae Craig (ei deulu, ei ffrindiau a chodwyr arian) wedi mynd i’r afael â nifer o heriau corfforol anodd, gan gynnwys y canlynol:
- Her y Pymtheg Copa – cychwynnodd Craig ar antur galed a oedd yn cynnwys dringo 15 o fynyddoedd, pob un yn uwch na 3,000 troedfedd, o fewn 24 awr heriol.
- Heriau Beicio – gan gynnwys taith o Gaerdydd i Baris: taith 320 milltir o Gaerdydd i brifddinas Ffrainc, Paris i Bordeaux: taith 420 milltir o Baris i Bordeaux, a Carten: a thaith 100 milltir o Gaerdydd i Ddinbych-y-pysgod.
Her olaf Craig oedd Taith Arfordirol Cymru, ar hyd arfordir trawiadol Cymru, sy’n ymestyn dros 780 milltir.
Mae canser wedi bod yn rhan o fywydau pawb ar ryw adeg, gan brofi ein cryfder. Ond ni fydd canser yn diffinio ein dyfodol. Yn y digwyddiad hwn, daeth pobl o bob cwr o Gymru at ei gilydd, nid fel unigolion yn unig, ond fel grŵp pwerus yn cwffio yn erbyn canser.
Mae’r her, sy’n para 26 diwrnod, yn adlewyrchu nod prosiect QuicDNA, sef lleihau amser derbyn diagnosis canser yr ysgyfaint i uchafswm o 26 diwrnod; gyda’r 780 milltir yn symbol o’r 78 diwrnod a gymerodd Craig i dderbyn ei ddiagnosis canser ei hun. Mae’r llwybr, sy’n cwmpasu Llwybr Arfordir Cymru, yn ymestyn drwy glogwyni garw, traethau melyn a phentrefi hardd.
Nid yw Craig wedi bod ar ei ben ei hun yn ystod y daith hon. Mae enwogion o Gymru wedi ymuno ag ef, gan gynnwys Gethin Jones, Shane Williams, Liam Reardon, Wynne Evans, Derek Brockway, a llawer mwy.
Dywedodd Magda Meissner, Arweinydd Biopsi Hylif Clinigol yn AWMGS:
“Roedd hi’n fraint cerdded 20 milltir gyda Craig Maxwell yn ystod Her Canser Llwybr Arfordir Cymru ddydd Sadwrn 9 Mawrth, gan gyfrannu at ymdrechion codi arian Sefydliad Maxwell. Mae Craig yn wirioneddol anhygoel ac yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom. Rwy’n ddiolchgar iawn i Craig am ganiatáu i mi fod yn rhan o’r daith hon.”
Mae pêl rygbi wedi cael ei chario’r pellter cyfan, a ddaeth i ben yn Stadiwm Principality, yn ystod y gêm Chwe Gwlad Guinness rhwng Cymru a Ffrainc ar 10 Mawrth. Wrth gwblhau’r her, roedd Craig a’i blant Isla a Zach yn cario’r bêl ar y cae. Mae’r her anferthol yn symbol o obaith, gwytnwch ac undod yn ystod y frwydr yn erbyn canser.
Mae mwy o fanylion am yr her yma
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr arian sy’n cael ei godi, ac i gael gwybod sut mae cyfrannu, ewch i: https://maxwell.foundation/