Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr y GIG i ddarparu mewnwelediadau a fydd yn helpu i fireinio a gwella tiwtor AI newydd.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn datblygu tiwtor sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn helpu staff GIG Cymru i ddeall deallusrwydd artiffisial; ei fanteision, ei risgiau, a ffyrdd ymarferol o’i ddefnyddio ym maes gofal iechyd.
Er mwyn sbarduno’r gwaith o ddatblygu’r adnodd deallusrwydd artiffisial hwn, mae AaGIC yn chwilio am wirfoddolwyr o’r GIG i roi adborth a fydd yn helpu i’w fireinio a’i wella.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Gwahoddir staff clinigol ac anghlinigol GIG Cymru i dreialu’r tiwtor deallusrwydd artiffisial a rhannu eu hadborth drwy gyfweliad ar-lein neu grŵp ffocws bach. Bydd eich mewnbwn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei integreiddio yn y GIG yng Nghymru.
Pryd?
Cynhelir y sesiynau rhwng 3 a 14 Mawrth 2025 a byddant yn para hyd at awr. Efallai y bydd angen cyfrif ChatGPT am ddim; bydd cymorth ar gael os oes angen.