Trydydd parti

Bydd gwasanaeth digidol newydd sy’n cael ei lansio yr hydref hwn yn canoli’r broses ar gyfer cael mynediad at ofal arferol gan ddeintydd GIG i bobl ledled Cymru.

A dentist using an iPad

Bydd y Porth Mynediad Deintyddol, sy’n cael ei dreialu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn darparu llwyfan canolog i Fyrddau Iechyd ddyrannu lleoedd ar gyfer triniaeth ddeintyddol arferol ym mhractisau deintyddol y GIG ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth newydd wedi’i ddylunio a’i adeiladu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru a bydd yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae amrywiad sylweddol rhwng dyraniad y Byrddau Iechyd o leoedd deintyddion y GIG, sy’n ei gwneud hi’n anodd mesur gwir lefel y galw yn lleol ac yn genedlaethol. 

Mae'r gwasanaeth ar gael i gleifion ym Mhowys yn unig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, pan gaiff y gwasanaeth ei gyflwyno’n genedlaethol dros y misoedd nesaf, bydd yn rhoi darlun clir i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a sefydliadau partner o raddfa’r galw am wasanaethau deintyddol y GIG. Bydd hefyd yn golygu y bydd cleifion sy'n byw ym mhob rhan o Gymru yn gallu defnyddio’r gwasanaeth newydd am y tro cyntaf, gan wneud cyrchu gofal deintyddol arferol y GIG yn symlach ac yn decach i bawb.

I fod yn gymwys i wneud cais trwy'r Porth Mynediad Deintyddol, rhaid i bobl: 

  • Fod yn 16 oed neu’n hŷn (gall rhieni/gwarcheidwaid wneud cais i’r rhai dan 16 oed)
  • Fod heb dderbyn triniaeth ddeintyddol arferol gan y GIG yng Nghymru yn y pedair blynedd diwethaf
  • Fod yn byw mewn cyfeiriad yng Nghymru am fwy na chwe mis o’r flwyddyn neu fynychu practis meddyg teulu yng Nghymru

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: 

“Bydd y porth newydd yn helpu cleifion ym Mhowys i osgoi treulio amser yn galw heibio practisau deintyddol yn chwilio am ddeintydd GIG.

“Dyma un o lawer o welliannau rydym yn eu gwneud i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, ac rwy’n edrych ymlaen i’r porth gael ei gyflwyno ledled Cymru.

O dan y cynllun peilot ym Mhowys, mae pobl sydd eisoes ar restr aros ddeintyddol Bwrdd Iechyd wedi cael eu hychwanegu'n awtomatig at y Porth Mynediad Deintyddol. Byddant yn cael eu blaenoriaethu ar sail pryd y gwnaethant ymuno â'r rhestr bresennol a rhoddir cyfle iddynt optio allan, os dymunant wneud hynny, drwy fewngofnodi i’r Porth Mynediad Deintyddol, neu drwy gysylltu â’u Bwrdd Iechyd. Bydd cleifion newydd nad ydynt eisoes ar restr aros Bwrdd Iechyd Addysgu Powys am driniaeth ddeintyddol arferol y GIG yn cael eu gwahodd i wneud cais drwy’r Porth Mynediad Deintyddol. Gall cleifion Powys sydd heb fynediad digidol barhau i gysylltu â llinell gymorth ddeintyddol y Bwrdd Iechyd dros y ffôn.

Ar ôl ymuno â’r Porth Mynediad Deintyddol, bydd cleifion yn gallu mewngofnodi'n ddiogel i wirio statws eu cais.

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â dhcw-comms@wales.nhs.uk.