Yr Her  

Mae cost triniaeth yn ystyriaeth allweddol ar gyfer meddygaeth fanwl. Mae’n gostwng ond gall prisiau technolegau fel dilyniannu DNA a therapïau cyffuriau wedi’u targedu gael effaith sylweddol ar gyllidebau.  

Mae angen i ni ffurfweddu ein gwasanaethau gofal iechyd er mwyn iddyn nhw allu mabwysiadu a defnyddio meddyginiaethau personol yn effeithiol a bod yn gyfrifol am dirwedd model talu sy’n newid yn gyflym. Bydd newidiadau o’r fath yn helpu i sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar driniaethau meddyginiaethol pwrpasol yng Nghymru. 

Er mwyn i ddulliau meddygaeth fanwl ddod yn rhan o ddarpariaeth gofal iechyd reolaidd, bydd angen i glinigwyr a darparwyr gofal iechyd ddeall a defnyddio’r technolegau diweddaraf ym maes geneteg foleciwlaidd a biocemeg. Bydd gofyn i glinigwyr hefyd ddehongli canlyniadau profion genetig, deall sut mae’r wybodaeth honno’n berthnasol i ddulliau trin neu atal, a chyfleu’r wybodaeth hon i gleifion. 

 

Y Cyfle  

Bydd ein gwaith ym maes meddygaeth fanwl yn helpu i wireddu uchelgeisiau strategol Cymru. Amlinellir y rhain yn y Datganiad o Fwriad ar gyfer Meddygaeth Fanwl, a’r Datganiad o Fwriad cysylltiedig ar gyfer Patholeg, Delweddu a Therapiwteg Datblygedig.  

Fe wnaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd, arwain y gwaith o  ddatblygu cynllun ac achos busnes a luniwyd ar y cyd, i greu a sefydlu Canolfan Ragoriaeth Meddygaeth Fanwl yn Ne Cymru. Mae clystyru gwasanaethau fel hyn yn canolbwyntio ar wneud diagnosis cynharach o glefydau, llwybrau triniaeth cyflymach i gleifion, a defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial a digidol. 

Helpodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru a Gwasanaeth Gwaed Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae hyn wedi arwain ar sefydlu Canolbarth Lloegr a Chymru (WMATTIC), sydd eisoes yn hwyluso trin cleifion sydd â therapïau uwch. 

Rydyn ni hefyd yn gweithio ar sawl cynnig ar y cyd sy’n ceisio cyflymu Meddygaeth Fanwl yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi diwydiant, gofal iechyd a’r byd academaidd drwy gyfres o ddigwyddiadau herio.  

 

Ymunwch â ni ar ein taith 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn awyddus i ymgysylltu â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes Meddygaeth Fanwl i helpu i gyflymu’r cyfleoedd y bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn eu darparu. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni gefnogi eich sefydliad, anfonwch neges e-bost i helo@hwbgbcymru.com gan roi'r canlynol yn y llinell pwnc: Meddygaeth Fanwl.