Yn ddiweddar, daeth partneriaid at ei gilydd i ddathlu cynnydd prosiect QuicDNA, Astudiaeth arloesol yn y ‘Byd Go Iawn’ sy’n ceisio integreiddio technolegau biopsi hylif i’r system gofal iechyd yng Nghymru, a thynnwyd sylw at astudiaeth barhaus y prosiect a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r treial biopsi hylif hwn ar gyfer canser yr ysgyfaint bellach ar agor i gleifion ledled Cymru, sy’n brawf o’r cydweithio rhwng nifer o bartneriaid. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Rob Orford, Prif Swyddog Gweithredol Moondance Cancer Initiative, a osododd naws egnïol ar gyfer y diwrnod, a phwyso a mesur gwaith caled a llwyddiannau 2023-2024. Dyma oedd rhai o drafodaethau allweddol y diwrnod...
Cydweithio ar draws sectorau: Yr hyn sy’n allweddol i lwyddiant QuicDNA
Ar ran Mike Emery (Prif Swyddog Digidol ac Arloesi, Llywodraeth Cymru), Jason Lintern (Arweinydd Arloesi Iechyd, Llywodraeth Cymru) i’r llwyfan i rannu syniadau am daith y prosiect hyd yn hyn, gan dynnu sylw at botensial QuicDNA i drawsnewid gofal, gan glywed yn uniongyrchol gan glinigwyr, cleifion a phartneriaid gofal iechyd sy’n ymwneud â’r gwaith hwn.
“Canser yr ysgyfaint yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, ac mae llawer o gleifion yn cael diagnosis pan fydd y canser wedi datblygu. Gall diagnosis cyflymach a thriniaethau wedi’u targedu wneud gwahaniaeth sylweddol i’r prognosis.
Mae QuicDNA yn cynnig cyfleoedd enfawr i gyflymu’r broses o wneud penderfyniadau mewn triniaeth canser yr ysgyfaint, lle gellir dechrau triniaethau wedi’u targedu yn gynharach, gan wella canlyniadau cleifion yn y pen draw. Mae’n enghraifft o’r hyn rydym yn gobeithio ei weld yn deillio o’r Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser – diagnosis mwy amserol a chywir a llwybrau gofal gwell.” Jason Lintern, Arweinydd Arloesi Iechyd, Llywodraeth Cymru.
Roedd y sesiwn gyntaf yn cynnwys trafodaeth banel ar daith y prosiect, gan ganolbwyntio’n benodol ar bwysigrwydd cydweithio rhwng diwydiant, y byd academaidd, y GIG a chleifion. Roedd y panel yn cynnwys dau arweinydd yr astudiaeth QuicDNA - Sian Morgan (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Labordy Genomeg Feddygol Cymru Gyfan) a Dr Magda Meissner (Ymgynghorydd Oncoleg Feddygol Acedemaidd, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ganser Velindre). Dyma rai o aelodau eraill y panel: a Lewis Egal o AWMSG ac Amgen, Pilar Ramos, Illumina, Georgina Gardener Canolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd), a Wendy Evans, Moondance Cancer Initiative. Un o’r prif wersi a ddysgwyd o’r drafodaeth oedd bod cydweithio ar draws sectorau’n hanfodol er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl y gall QuicDNA eu cynnig i ofal canser yng Nghymru.
“Mae’r prosiect hwn wedi arwain at wersi pwysig y gall diwydiant gydweithio â’i gilydd ac mae’n dangos bod angen i ni fod yn fwy tryloyw wrth gynnwys ein gilydd, yn enwedig er mwyn gweithio tuag at un amcan mawr o fynd i’r afael â chanlyniadau canser yng Nghymru.” - Lewis Egal, Rheolwr Atebion Gofal Iechyd, Amgen, a Rheolwr Prosiect astudiaeth QuicDNA – Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan
Effaith glinigol a’r effaith ar gleifion: Diagnosis cyflymach, canlyniadau gwell
Un o’r prif bethau y canolbwyntiwyd arnynt yn y digwyddiad oedd yr effaith y mae QuicDNA wedi’i chael ar ofal i gleifion. Arweiniodd Magda Meissner a Rachel Dodds o Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan drafodaeth ar y llwybr diagnostig presennol ar gyfer canser yr ysgyfaint. Gan ystyried yr hyn a ddysgwyd hyd yma, atgoffodd Magda’r gynulleidfa o gymhelliant cychwynnol y prosiect. Mae llwybr trin canser yr ysgyfaint, sef y pedwerydd canser mwyaf cyffredin a’r prif achos o farwolaethau canser, yn cymryd 62 diwrnod ar hyn o bryd – cyfnod aros annerbyniol o hir. Mae QuicDNA wedi dangos yr angen i wella hyn, gan ostwng y cyfnod trin i 26 diwrnod.
Mae’r gallu i gael canlyniadau cyflymach wedi galluogi clinigwyr i ddechrau trin cleifion yn gynt. Tynnwyd sylw at hyn gan y panelwyr Dr Paul Shaw, a Dr Mick Button, Oncolegwyr Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre. Ynghyd â Dr Mattehew Jones Ymgynghorydd Gofal Anadlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fe wnaethant rannu sut mae’r prosiect wedi newid eu hagwedd at ofal i gleifion, gan dynnu sylw at rôl biopsïau hylif wrth leihau amseroedd aros am ddiagnosis. Mae’r cynnydd hwn o ran monitro a llywio triniaethau yn gam sylweddol ymlaen mewn meddygaeth bersonol.
I gleifion fel Craig Maxwell, fe wnaeth ei stori daro tant yn ystod y digwyddiad, gan dynnu sylw at sut mae llwyddiant QuicDNA yn cael ei fesur mewn mwy na dim ond ffugurau, ond mewn straeon go iawn o obaith, gwytnwch, a gwell ansawdd bywyd i gleifion. Mae Craig, sy’n eiriolwr brwd dros y prosiect QuicDNA, lle mae ei ymdrechion codi arian wedi bod yn allweddol o ran cefnogi QuicDNA, a rhoi cymorth a galluogi cleifion i gael triniaeth.
Yn ystod y digwyddiad, fe wnaeth fideo teimladwy dynnu sylw at stori Craig a’i Her Llwybr yr Arfordir yn ddiweddar. Rhannodd Craig sut mae bod yn rhan o’r prosiect wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas iddo yn ystod cyfnod mwyaf heriol ei fywyd. Ei ddycnwch i hyrwyddo’r astudiaeth, gan helpu cleifion i gael gafael ar adnoddau diagnostig gwell yn y dyfodol, sydd wedi sbarduno ei gyfraniad.
“Yn anffodus, cymerodd 78 diwrnod i gael diagnosis, a doedd dim bai ar y meddygon a’r nyrsys anhygoel am hynny. Yn syml iawn, doedd y dechnoleg oedd ei hangen arnyn nhw ddim ar gael (yn 2022). Torrwyd fy nghalon y diwrnod hwnnw, yr 8fed o Fedi, pan ddywedwyd wrthym fod y canser yn derfynol ac ar gam pedwar. Meddyliais am fy mywyd, fy nau blentyn ifanc ac yn fuan iawn y sylweddolais na allwn i newid hynny. Ond yr hyn y gallwn i ei newid, a’r hyn y gallwn i ei wneud yw helpu’r profiad a gawsom a helpu’r teulu nesaf i weld a allan nhw newid eu profiad.
“Rydw i wedi gallu cynorthwyo a helpu Tîm Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, a’r Ganolfan Treialon Ymchwil i gyflwyno’r cynllun peilot hwn, ac os byddai wedi bod ar gael i mi, mae’n debyg y gallai fod wedi lleihau’r cyfnod cyn i mi gael diagnosis o 78 diwrnod i 26 diwrnod, a byddwn i wedi cael triniaeth yn gynt. Er efallai na fyddai wedi rhoi prognosis gwahanol i’r sefyllfa derfynol i mi, byddai wedi rhoi mwy o amser gwerthfawr i mi gyda fy nheulu.” - Craig Maxwell, Cynrychiolydd cleifion ar grŵp llywio QuicDNA.
Edrych tua’r dyfodol: QuicDNA Max - ehangu ac arloesi
Yn sesiwn olaf y diwrnod, trafodwyd y dyfodol i QuicDNA a meddygaeth genomig yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gynlluniau ehangu a rhoi biopsi hylif ar waith mewn mathau eraill o diwmorau solet. Rhannodd Dr Magda Meissner a Sian Morgan eu gweledigaeth ar gyfer QuicDNA Max, gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect drwy ymgorffori mwy o wahanol fathau o ganser i’r llwybr diagnostig, gan wneud biopsïau hylif yn rhan safonol o’r pecyn adnoddau clinigol.
“Mae arloesi genomig yn datblygu’n gyflym, gan gynnwys cyflwyno’r biopsi hylif. Bydd arloesi ym maes genomeg yn parhau i ddatblygu, bydd technoleg yn datblygu, a bydd y brys clinigol neu'r angen am y prawf yn sbardun allweddol i hyn a’r gallu i’w gyflawni oherwydd y datblygiadau technolegol rydym yn dyst iddynt" - Sian Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Labordy Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS).
Mae nodau QuicDNA yn uchelgeisiol ond yn glir – byrhau’r amser y mae’n cymryd i gael triniaeth, gan gynyddu nifer y cleifion sy’n cael therapïau wedi’u targedu, a gwella canlyniadau cyffredinol i gleifion drwy leihau effaith gorfforol ac emosiynol prosesau diagnostig hir ar gleifion canser yr ysgyfaint. Roedd y diwrnod yn llawn effaith ac emosiwn, a thynnwyd sylw at ddyfodol mwy disglair i genomeg yng Nghymru.
“Mae’r prosiect QuicDNA yn dangos sut y gall cydweithio ac arloesi sbarduno newid go iawn. Mae gweld effaith y dechnoleg arloesol hon ar ganlyniadau cleifion, a chlywed straeon personol fel stori Craig a chleifion eraill, yn ein hatgoffa pam fo hwn yn waith mor hanfodol. Roedd y digwyddiad yn ddathliad gwych o’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yma a’r ymdrechion sydd wedi helpu i ehangu’r prosiect ar draws chwe Bwrdd Iechyd Cymru.” - Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Mae rhagor o wybodaeth am daith y prosiect ar gael yma.
Diolch i’r holl bartneriaid a’r Byrddau Iechyd sy’n cyfrannu at y prosiect QuicDNA, ac wrth i’r prosiect barhau i dyfu, mae’n parhau i fod yn enghraifft flaenllaw o sut gall technoleg arloesol a chydweithio chwyldroi gofal i gleifion:
Gwasanaethau Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS),Canolfan Treialon Ymchwil - Prifysgol Caerdydd, Moondance Cancer Initiative, Gofal Canser Tenovus, Craig Maxwell - Elusen Felindre, Amgen, Illumina, AstraZenica, Bayer, Lilly. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru.
Ariannwyd y prosiect peilot “Integreiddio Biopsi Hylif i Lwybr Diagnostig Canser yr Ysgyfaint” gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) drwy gyllid Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru.