Trydydd parti

Ysgrifennwyd y blog gwadd yma gan yr Athro Chris Hopkins, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Sefydliad TriTech, am gymorth diagnostig MRI ar gyfer canser y prostad sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial/dysgu peirianyddol. 

MRI machine

Mae canser y prostad yn effeithio ar 1 ym mhob 8 o ddynion drwy gydol eu hoes. Oherwydd hirhoedledd cynyddol ac ymwybyddiaeth gynyddol, mae nifer yr achosion o ganser y prostad yn cynyddu. Mae canser y prostad yn cael ei ddiagnosio'n bennaf gan ddefnyddio prawf gwaed (antigen penodol i'r prostad neu PSA), ac yna sganiau Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI) ac yn olaf biopsi; fodd bynnag, mae angen dehongli'r sganiau MRI hyn yn arbenigol ac adrodd yn amserol arnynt. Gall prinder radiolegwyr ac yn enwedig radiolegwyr arbenigol wroleg fod yn ffactor cyfyngol, yn enwedig wrth i’r galw gynyddu gan arwain at oedi yn y llwybr diagnostig. Gall cymorth diagnostig MRI sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial (AI)/dysgu peirianyddol (ML) ar gyfer canser y prostad gefnogi penderfyniadau clinigol a lleihau’r amser i ddehongli MRI. 

Rhaglen sy’n ymwneud â radioleg yw JivaRDX (dyfais feddygol dosbarth IIa, sy’n aros am gymeradwyaeth MHRA) ac mae’n rhagweld presenoldeb meinwe canseraidd o sganiau MRI prostad, ac fe’i bwriedir i’w ddefnyddio fel cymorth diagnostig. Yn weithredol, gall y model integreiddio i lif gwaith radioleg heb darfu arno drwy anodi ffeiliau delweddu yn awtomatig ac felly ychydig iawn o ymyrraeth a hyfforddiant sydd ei angen.

Cafodd y model ei werthuso dros ddeunaw mis ar draws y pedwar ysbyty aciwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fel rhan o’r gwerthusiad, gwnaethom ddadansoddi’n ôl-weithredol sganiau a gymerwyd o 121 o gleifion yr oedd amheuaeth bod ganddynt ganser y prostad. Defnyddiwyd y sganiau dienw hyn, ynghyd â lefelau antigen penodol i’r prostad (PSA) yn y gwaed (bioddangosydd hysbys ar gyfer canser y prostad) ac oedran y claf, i greu arddangosiad dichonoldeb o'r platfform fel rhagfynegydd amlddull o bresenoldeb y clefyd. Byddai’r gwerthusiad cychwynnol yn paratoi ar gyfer parodrwydd peilot clinigol ac yn mesur effaith gynnar gofal iechyd Seiliedig ar Werth yn ogystal â chywirdeb diagnostig.


Gwerthuso technoleg

I gloi, canfuwyd bod y model MRI yn darparu 76% o sensitifrwydd, 65% o benodoldeb a 69% o gywirdeb wrth ganfod canser y prostad. Mae astudiaethau niferus wedi dangos penodoldeb Radiolegydd ar 57%. Er bod y canlyniadau hyn yn hynod o addawol, mae angen dadansoddiad pellach cyn i JivaRDX gael ei gyflwyno i ofal clinigol arferol yn Hywel Dda.

 

Safbwyntiau cleifion a chlinigol 

Ymatebodd un ar ddeg o bob pymtheg aelod o’r Tîm Amlddisgyblaethol, ac roedd gan bob un o’r 11 aelod o’r Tîm Amlddisgyblaethol farn gadarnhaol am y cymorth diagnostig MRI. Tynnodd pawb sylw at yr effaith gadarnhaol y gallai’r model AI/ML ei chael ar ddiogelwch cleifion, canlyniadau, gwaith tîm, cyfathrebu ac effeithlonrwydd.

Dim ond tri o bob ugain claf a ymatebodd i’r holiadur, ond roedd gan y tri chlaf farn gadarnhaol am yr AI/ML. Yn gyffredinol, nododd ein cleifion eu bod yn frwdfrydig ynghylch gallu AI/ML i fod yn ddylanwad cadarnhaol mewn meddygaeth. Roeddent yn teimlo bod deallusrwydd artiffisial gofal iechyd yn gam cadarnhaol ymlaen ac roedd y cleifion hynny a oedd yn deall y cysyniad o ddeallusrwydd artiffisial yn cefnogi datblygu offer deallusrwydd artiffisial ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau gofal iechyd gwahanol.

Mae barn ein cleifion ar weithredu AI mewn gofal iechyd yn parhau i fod yn faes heb ei archwilio gan fwyaf, felly mae gweithredu AI mewn radioleg yn llwyddiannus yn gofyn am asesu barn ein cymunedau tuag at y dechnoleg. Erbyn hyn, mae ymdrech genedlaethol ar droed i archwilio agweddau tryloywder, bias, gwahaniaethu a moesegol yr algorithmau cymhleth hyn.