Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Yn ddiweddar, es i i Digital Health Rewired 2024 yn yr NEC yn Birmingham, digwyddiad sy’n edrych ar arloesi a thechnoleg gofal iechyd arloesol. Yn y blog hwn rydym yn archwilio arwyddocâd arloesedd a chydweithio, gan barhau i adleisio ac ailddiffinio gofal iechyd.  

REWIRED

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac arloesi digidol i gyflymu mynediad a gwasanaethau cleifion mewn gofal iechyd  

Roedd un prif sesiwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer mynediad i gleifion a gwasanaethau ym maes gofal iechyd, gan dynnu sylw at rai o’r mentrau arloesol yn y DU. Wedi’i gefnogi gan y Rhaglen Sbarduno Arloesi’r GIG, gan guradu datblygiadau arloesol a sbarduno datblygiadau newydd ym maes gofal iechyd.  

Anya AI – chwyldroi gofal mamolaeth: 

Rhannodd Dr Chen Mao Davies, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Anya AI, ei thaith bersonol fel mam a'r heriau a wynebodd, gan gynnwys iselder ôl-enedigol, a'r diffyg cefnogaeth yn ystod y cyfnodau bregus hynny fel rhiant. Gan ddefnyddio ei chefndir mewn CGI, sefydlodd Anya AI i chwyldroi mynediad menywod at gymorth 24/7 mewn gofal mamolaeth... 

Mae Anya AI yn cynnig cymorth personol ar gyfer beichiogrwydd, magu plant, y menopos a ffrwythlondeb, gydag ymgynghoriadau fideo a chymorth 1-1 wedi’i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial sy’n ddiogel yn glinigol. Nid yw siarad ag arbenigwr, neu glinigydd y tu allan i oriau gwaith yn hygyrch. Fodd bynnag, mae’n hawdd i gleifion gael gafael ar arbenigwyr a chlinigwyr y tu allan i oriau gwaith, dim ond drwy ofyn am sgwrs drwy’r un llwyfan sgwrsfot 

“Mae Anya yn darparu cymorth personol yn ystod y daith bywyd hollbwysig hon. Rydyn ni wedi adeiladu nifer o nodweddion gwahanol yn yr ap i ofalu am anghenion penodol. Nid yw Anya yn disodli’r cymorth presennol, nid yw’n ddyfais feddygol, mae’n cefnogi ac yn darparu cyngor gwybodaeth. Os bydd yn canfod problemau o ran diogelwch, bydd yn cyfeirio’r claf at y gwasanaethau cywir fel cymorth meddygol gan feddyg teulu. Gallwn weld ofn deallusrwydd artiffisial, ond po fwyaf rydyn ni’n ei ddefnyddio, a dangos y dystiolaeth o ran sut mae’n helpu mamau, clinigwyr a meddygon teulu i weld pam mai mabwysiadu Anya yw’r ffordd ymlaen.” - Dr Chen Mao Davies – sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Anya 

Mae Anya AI yn cydweithio â’r GIG i wneud gofal mamolaeth yn deg i bawb. Ar hyn o bryd mae’n cyrraedd 7 miliwn o bobl yn y DU drwy gomisiynu iechyd y cyhoedd, ac mae bellach wedi cael cyllid cam dau gan SBRI i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau tai mewn gofal mamolaeth.   

“Mae’n bwysig iawn cydweithio yn y diwydiant. Nid yw cystadleuaeth yn cael ei hystyried yn beth da – mae gan bob un ohonon ni’r un problemau, felly pam nad ydyn ni’n cydweithio ac yn arloesi gyda’n gilydd i gael y gwasanaethau hyn a datblygiadau arloesol newydd i’r rheng flaen yn gyflymach.”  - Michael Watts, rheolwr gyfarwyddwr, Emergency Role Allocation Systems (ERAS)  

Limbic – AI in mental health services: 

Limbic – Deallusrwydd Artiffisial mewn gwasanaethau iechyd meddwl: 

Bu Zohra Khaku, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol yn Limbic, yn trafod rôl deallusrwydd artiffisial o ran lleihau’r rhwystrau rhag cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl...  

Mae Limbic yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl hunangyfeirio am ddim ar gyfer y 13 o’r problemau mwyaf cyffredin fel gorbryder ac iselder, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i symleiddio’r broses. Mae’r llwyfan yn ymgysylltu â chleifion drwy ryngwyneb sgyrsfot sy’n casglu’r wybodaeth angenrheidiol ac yn helpu yn y broses atgyfeirio. Ar hyn o bryd, mae Limbic AI yn cael ei ddefnyddio gan nifer o ymddiriedolaethau drwy Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG.  

Mae’r platfform yn sicrhau ymgysylltiad cleifion, gyda chyfradd cwblhau uchel o 92%, ac mae’n mynd i’r afael â materion fel cyfraddau gadael a mynediad at wasanaethau, yn enwedig ar adegau critigol fel gyda’r nos ac ar benwythnosau. Darparu cydymaith gofal i’r claf i dderbyn gwybodaeth ar adegau mwy bregus.  

“Mae gan bobl eu barn am ddeallusrwydd artiffisial. I fod yn glir iawn, dydyn ni ddim yn ceisio disodli clinigwyr, rydyn ni’n ceisio ychwanegu at eu gwaith a’i gefnogi.” - Zohra Khaku

Mae sgyrsfot Limbic yn symleiddio rhyngweithio rhwng clinigwyr a chleifion drwy awtomeiddio holiaduron atgyfeirio, gan arbed amser gwerthfawr i glinigwyr ganolbwyntio ar ofal cleifion. Gyda chleifion eisoes yn cyfranogi a chwestiynau atgyfeirio allweddol yn cael eu casglu, gall clinigwyr flaenoriaethu meithrin perthnasoedd a chael gafael ar ofal priodol.  

Gwerth Limbic yw y gall fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl yn gynnar, gan arbed arian i’r GIG, cynyddu’r gyfradd adfer, a sicrhau bod cleifion yn cael y diagnosis cywir gan glinigwyr.  

Yn gyffredinol, pwysleisiodd y brif sesiwn botensial trawsnewidiol arloesedd a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd, yn enwedig o ran gwella mynediad, canlyniadau a phrofiadau cleifion.  

Heriau Chat GPT v meddygon dynol... 

Yn ystod y digwyddiad deuddydd oedd yn edrych ar arloesedd ym maes gofal iechyd, rydym wedi gweld yr effaith y mae AI yn ei chael ar yrru'r ecosystem, a bydd yn anochel yn parhau i ddatblygu. Fodd bynnag, mewn sesiwn ysgogol arall, gwelsom ryngweithio gweithredol rhwng ChatGPT a meddygon dynol, mewn trafodaeth oedd yn procio'r meddwl ar rôl offer AI mewn diagnosis clinigol.   

Roedd y sesiwn yn edrych ar senarios strategol ar gyfer gwella hyder mewn deallusrwydd artiffisial, gan ddefnyddio ChatGPT 3.5 a 4, gan fframio pob ymholiad fel pe bai aelod o’r cyhoedd yn gofyn am wybodaeth am wahanol bryderon iechyd. Mewn rhai sefyllfaoedd, cynigiodd ChatGPT wybodaeth ac awgrymiadau ‘weithiau’ ar gyfer ceisio gwerthusiad proffesiynol. Fodd bynnag, daeth pryderon i’r amlwg pan oedd y senarios yn cynnwys cwestiynau mwy cymhleth, fel pennu’r dos cywir o feddyginiaethau.  

“Mae’n gyffredin bod defnyddwyr yn gofyn y mathau hyn o gwestiynau i ChatGPT. Mae pobl yn defnyddio’r dyfeisiau hyn oherwydd eu bod yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn rhywle arall, gan wybod pa mor anodd yw cysylltu â’ch meddyg teulu. Er bod rhai peryglon wrth i ddefnyddwyr ei ddefnyddio ar gyfer mwy na gwybodaeth, ond i gael cyngor.” - Dr Keith Grimes (Ymgynghorydd Iechyd ac Arloesi Digidol) 

Wrth i’r trafodaethau hyn fynd rhagddynt, daeth cwestiynau moesegol a heriau gweithredol i’r amlwg. Codwyd pryderon ynghylch canlyniadau posibl ymatebion ChatGPT, gan gynnwys rheoli disgwyliadau cleifion a’r risg o gamwybodaeth. Er gwaethaf ei alluoedd gwybodaeth, nododd clinigwyr yn y senario mwy difrifol hwn nad yw ChatGPT ar hyn o bryd yn adnabod ffiniau, gan fod y math o ateb a gyflwynwyd ganddo yn awgrymu lluosi swm y dos, gan achosi risg ddifrifol i'r claf.  

Mae angen i ni fod yn ofalus o effaith ddilynol ymatebion ChatGPT. Beth yw effaith ddilynol mwy o gleifion yn defnyddio hwn ac yn dod atoch gyda’r wybodaeth hon? Mae angen i ni ei ddeall, ei effeithlonrwydd, a chydnabod ei gyfyngiadau presennol”. Michael Watts, (CCIO cyswllt, Ysbytai Athrofaol Derby ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Burton, a Rheolwr Gyfarwyddwr, Blum Health) 

Daeth y sesiwn i ben gyda myfyrdodau ar rôl esblygol deallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd, gan bwysleisio'r angen am fframweithiau moesegol, addysg defnyddwyr, a deialog barhaus rhwng technoleg a chymunedau meddygol. Er bod ChatGPT yn cynnig gwybodaeth werthfawr, mae'n anodd cael gwybod y wybodaeth ffeithiol a gonest pan mae mor anghywir mewn rhai achosion. Mae hynny yn tynnu sylw at yr angen i fireinio ac integreiddio offer deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol mewn ymarfer clinigol.  

Mae cyfyngiadau ChatGPT yn tynnu sylw at rôl anhepgor meddygon dynol, a phwysigrwydd defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd cynorthwyol yn hytrach na ffynhonnell bendant o gyngor meddygol. Er bod ChatGPT yn cynnig hwylustod a hygyrchedd, wrth ei ddefnyddio mae’n rhaid cael dealltwriaeth feirniadol o’i alluoedd a’i gyfyngiadau.  

Technolegau digidol integredig – y dyfodol ym maes gofal iechyd 

Mae tirwedd gofal iechyd yn newid yn sylweddol ac mae hynny’n cael ei sbarduno gan arloesedd digidol. Roedd arweinwyr y diwydiant yn taflu goleuni ar rôl allweddol technolegau digidol wrth lunio dyfodol darparu gofal iechyd. Roedd y trafodaethau hyn yn tynnu sylw at nifer o feysydd allweddol fel:  

  • Y Genhedlaeth Newydd o Ysbytai – y weledigaeth bod ysbytai’n esblygu y tu hwnt i’r waliau traddodiadol, gan groesawu gwasanaeth cwbl ddigidol fel profi gartref ac ymgynghoriadau ar-lein. Mae’r dull personol hwn yn anelu at ofal rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar y claf er mwyn lleihau amseroedd aros, ac i wneud y gorau o adnoddau.  
  • Gofal Rhithwir a Galluogi Clinigol – Mae technolegau digidol yn agor drysau i ofal rhithwir, yn lleihau derbyniadau i ysbytai ac yn symleiddio llif gwaith clinigol. Mae atebion sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial yn ymgymryd â thasgau gweinyddol, sy’n galluogi clinigwyr i ganolbwyntio ar ryngweithio gwerth uchel â chleifion.  
  • Iechyd y Boblogaeth a Monitro o Bell – mae systemau gofal iechyd yn defnyddio data fwyfwy i dargedu ymyriadau’n effeithiol a symud tuag at ofal ataliol. Drwy gofleidio technolegau monitro o bell, gall clinigwyr a darparwyr gofal iechyd fonitro statws iechyd cleifion o bell, gan leihau’r angen am dderbyniadau rheolaidd i’r ysbyty, ymweliadau i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys ac apwyntiadau gyda meddygon teulu.  

Rhoddwyd sylw i bwyntiau trafod allweddol ynghylch trawsnewid digidol yng Nghymru, sy’n cael eu hystyried yn gatalydd ar gyfer canlyniadau iechyd economaidd. Mae cofleidio technolegau digidol nid yn unig yn bwysig ar gyfer sbarduno newid diwylliannol, ond hefyd ar gyfer meithrin arloesedd. Drwy flaenoriaethu buddsoddiadau ac ail-ddychmygu’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu, mae Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pŵer digidol i wella llesiant ei phoblogaeth.  

I gloi, mae arloesedd digidol yn chwyldroi darpariaeth gofal iechyd, gan gynnig cyfleoedd digynsail i wella gofal cleifion, gwneud y gorau o ddyrannu adnoddau, a sbarduno twf economaidd. Drwy fabwysiadu dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar y claf, mae systemau gofal iechyd yn datgloi potensial technolegau digidol i baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol iachach a mwy gwydn.  

Os na wnaethoch chi gwrdd â ni yn y digwyddiad ond yr hoffech ddysgu mwy am sut gallwn eich cefnogi chi i sbarduno arloesedd ar reng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni.