O deithiau rhithwir i fentora a lleoliadau gwaith, gallwch helpu i ddatblygu’r garfan nesaf o wyddonwyr bywyd a chael gafael ar grŵp o raddedigion talentog. 

Myfyrwyr a chyflogwyr

Ar hyn o bryd, mae’r garfan ddiweddaraf o wyddonwyr bywyd yn cymryd camau cyntaf cyffrous yn eu gyrfaoedd. Mae sefydliadau academaidd ledled Cymru yn arfogi’r rheini sy’n astudio biofeddygaeth, ffarmacoleg, gwyddor fforensig a phopeth yn y canol i fynd yn eu blaenau i lenwi swyddi gwerth uchel yng Nghymru. 

Daw hyn ar adeg pan mae gwyddorau bywyd yn fwy gwerthfawr nag erioed o ran diogelu ein gwasanaethau iechyd, gofal a lles yng Nghymru yn y dyfodol, a all helpu i sbarduno twf economaidd. Mae cyflogaeth yn y maes hwn yn parhau i dyfu wrth i arloeswyr geisio defnyddio gwyddorau bywyd i helpu i ddatrys heriau gofal iechyd mawr, fel ein poblogaeth sy’n heneiddio ac effaith clefydau fel canser. 

Dim ond gyda gweithlu sydd â’r sgiliau a’r profiad cywir y gellir cyflawni hyn, a dyna pam mae addysgu a hyfforddi myfyrwyr ar draws gwyddorau bywyd yn hanfodol i sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i weithio lle mae angen eu sgiliau. 

Fodd bynnag, ni ddylai addysg fod yn yr ystafell ddosbarth yn unig. Mae profiad ymarferol a dealltwriaeth o beth yw gweithio mewn sefydliad gwyddorau bywyd yn adnodd amhrisiadwy i helpu i ysbrydoli myfyrwyr i barhau â’u gyrfa yn y meysydd arbenigol hyn.  

Mae amrywiaeth o sefydliadau a rhaglenni addysg uwch ledled Cymru sy’n cydnabod pwysigrwydd datblygu’r sgiliau cyflogadwyedd ymarferol hyn. Mae’r rhain yn cynnwys Coleg Gwent, Prifysgol De Cymru, Rhwydwaith ‘Arweinyddiaeth Heb Ffiniau’ Gwella, a’r Brifysgol Agored

Sut gall y diwydiant gefnogi’r ymgyrch? 

Gall sefydliadau gwyddorau bywyd a gofal iechyd gefnogi’r ymgyrch hon i arfogi myfyrwyr â sgiliau mwy ymarferol a phrofiad perthnasol a dealltwriaeth o weithio yn y diwydiant. P’un ai a ydych chi’n fusnes newydd, yn fusnes bach neu’n gwmni rhyngwladol, gall eich sefydliad helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr bywyd yng Nghymru.  

Mae eich cefnogaeth yn darparu mynediad unigryw at farchnad swyddi i unigolion medrus iawn yn y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle gwych i gryfhau eich cysylltiadau â sefydliadau addysg uwch, gan wella ymwybyddiaeth o’ch sefydliad ymhlith myfyrwyr. Gall eich cyfraniad amrywio o gynnal digwyddiad neu gyfarfod byr un-tro i gyfleoedd lleoli a mentora yn fwy hirdymor. 

Teithiau o amgylch y cyfleuster 

Gall neuaddau darlithoedd a labordai prifysgol fod yn brofiad cwbl wahanol i weithio ym maes gwyddorau bywyd fel myfyriwr graddedig. Bydd angen sicrhau bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth o amgylchedd eich gweithle drwy ddarparu teithiau rhwng nawr a’r haf. Gall y rhain fod gyda siaradwr gwadd, ar-lein neu wyneb yn wyneb, gan ddibynnu ar beth sy’n gweithio orau i’ch sefydliad. Mae modd recordio’r teithiau hyn ymlaen llaw hefyd, sy’n golygu bod modd eu trefnu yn eich amser eich hun ac mae modd ailddefnyddio’r fideos. 

Cwrdd â gweithiwr proffesiynol 

Helpwch fyfyrwyr i ddeall mwy am swydd benodol neu faes gyrfa yr hoffent ei ddilyn. Gall cyfarfod byr dros y we neu wyneb yn wyneb rhwng myfyriwr a gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio yn y rôl honno eu helpu i gael gwybod mwy am sut beth yw'r rôl a’r llwybr gyrfa a’r sgiliau sydd eu hangen i gyrraedd yno. 

Cysgodi gwaith 

Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i unrhyw ddarpar arweinwyr yn eich sefydliad. Gall cyfranogwyr gysgodi ac arsylwi rhywun yn eu rôl am hyd at dri diwrnod er mwyn cael gwell syniad o sut maen nhw’n gwneud eu gwaith o ddydd i ddydd. Yn rhaglen Arweinyddiaeth Gwella, gall y rhai sy’n cysgodi fod yn gweithio ar unrhyw lefel. 

Gan fod y cysgodi hwn yn wirfoddol, nid oes angen cyllid, ac mae’r gefnogaeth ar sail wirfoddol. Mae angen cyfleoedd cysgodi ar gyfer darpar fyfyrwyr ym maes gwyddorau bywyd a gofal iechyd ar bob lefel. Yn ogystal ag arsylwi, gellid hefyd rhoi rhan fach o brosiect i’r myfyrwyr ei helpu. 

Prosiectau byw, heriau a phrofiadau rhithwir 

Gellir cefnogi hefyd drwy brofiadau digidol a rhithwir. Mae amrywiaeth o wefannau â phrofiad rhithwir fel Forage a Bright Network UK sydd wedi ffurfio partneriaeth ag amrywiol sefydliadau sy’n gweithio ar draws nifer o sectorau i gynhyrchu efelychiadau rhyngweithiol o ‘ddiwrnod ym mywyd’ gweithiwr mewn rôl benodol. 

Mae’r lleoliadau gwaith enghreifftiol hyn yn cynnwys cyfres o dasgau sydd fel arfer yn cymryd tua phump i chwe awr i’w cwblhau, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a rhoi cipolwg ar y sector. 

Gall sefydliadau hefyd ddefnyddio llwyfannau fel hyn i osod heriau mwy hirdymor, lle mae gan fyfyrwyr hyd at ddau fis i lunio ateb sy’n datrys problem. Yna, bydd partneriaid y diwydiant yn rhoi adborth i’r myfyrwyr. 

Mae defnyddio rhyngwynebau fel hyn yn hysbyseb ardderchog ar gyfer eich sefydliad gan y gall y deunyddiau digidol barhau i gael eu defnyddio gan bartneriaid addysg uwch ar gyfer gwahanol garfannau o fyfyrwyr. 

Mentora 

Gall pobl ar draws eich sefydliad ddatblygu eu sgiliau arwain drwy gyfleoedd mentora gyda myfyrwyr ail flwyddyn. Gallant fentora hyd at dri myfyriwr dros gyfnod o chwe mis, mewn un cyfarfod bob mis, gan roi arweiniad gyrfa a chyngor ar sut i ddechrau ar yr ysgol yrfa cyn symud ymlaen i swyddi uwch yn y sector. 

Lleoliadau gwaith 

Gallwch gefnogi myfyrwyr sydd â chyfleoedd profiad gwaith di-dâl ac â thâl. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddeall sut y gall gweithio ym maes gwyddoniaeth ddatblygu eu gyrfa a sut y gellir defnyddio eu sgiliau. 

Mae cyfleoedd di-dâl yn cynnwys hyd at bedair wythnos o brofiad gwaith i fyfyrwyr ddysgu am weithio yn amgylchedd eich sector. Mae cyfleoedd am dâl yn fwy hirdymor, yn amrywio o fis i flwyddyn.  Gall pob cyfle fod yn bersonol, yn rhithwir neu’n gyfunol, yn dibynnu ar eich sefydliad ac amgylchiadau’r myfyriwr. 

Mae cynnwys eich hun yng nghynlluniau lleoliadau yn rhoi cyfle i’ch sefydliad gefnogi datblygiad gyrfa myfyrwyr ac yn rhoi mynediad i’ch sefydliad at grŵp o raddedigion talentog yn y dyfodol.  

Dechrau cefnogi 

Mae sawl ffordd y gall eich sefydliad helpu i hyfforddi’r garfan nesaf o wyddonwyr bywyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a chael budd o hynny. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â hello@lshubwales.com