Trydydd parti

Yn y blog gwadd hwn, mae Lauren Hayes, Rheolwr Busnes Rhyngwladol ABHI yn dweud wrthym fod ABHI yn cynnal Pafiliwn y DU yn Ffair Cyfarpar Meddygol Ryngwladol Tsieina (CMEF) yn Shanghai, sut y gallwch chi gymryd rhan yn y digwyddiad, a sut y gall ABHI eich cefnogi.

A photo of Shanghai

Dw i’n llawn cyffro’n rhannu y bydd Cymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI) unwaith eto’n cynnal Pafiliwn y DU yn Ffair Cyfarpar Meddygol Ryngwladol Tsieina (CMEF) yn Shanghai rhwng 8-11 Ebrill 2025. I unrhyw un sy’n anghyfarwydd, CMEF yw’r arddangosfa fwyaf o gyfarpar gofal iechyd yn Tsieina a rhanbarth Asia a’r Môr Tawel ac mae’n gyfle gwych i gwmnïau technoleg iechyd y DU wneud argraff ar y farchnad bwysig hon.

Felly pam fod CMEF yn ddigwyddiad mor bwysig i gwmnïau gofal iechyd y DU? 

Wel, mae marchnad gofal iechyd Tsieina’n ehangu’n sydyn iawn wrth i’r boblogaeth heneiddio a phwyslais cynyddol ar arloesi technolegol. Mae hyn yn creu galw unigryw am y dyfeisiau a’r atebion meddygol diweddaraf ac yn faes cyffrous i gwmnïau’r DU ddysgu mwy amdano. CMEF yw’r llwyfan perffaith i fusnesau sy’n awyddus i ddatblygu yn y rhanbarth, gan roi mynediad uniongyrchol at randdeiliaid allweddol a dealltwriaeth amhrisiadwy o’r farchnad leol.

Byddaf yn mynychu’r digwyddiad i gynrychioli tîm rhyngwladol ABHI ac yn sicrhau y bydd cwmnïau yn y DU yn cael y gorau allan o’r cyfle hwn. Gyda blynyddoedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu, cydymffurfio â rheoliadau a rheoli’r gadwyn gyflenwi, dw i wedi helpu nifer o fusnesau i ddeall cymhlethdod y marchnadoedd rhyngwladol. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at dywys ein cwmnïau Technoleg Iechyd ar eu siwrne yn Tsieina a’u helpu i greu cysylltiadau ystyrlon.
 

Arddangos diwydiant y DU ar lwyfan rhyngwladol

Mae cynnal Pafiliwn y DU yn CMEF yn fwy na darparu arddangosfa’n unig; mae’n rhoi llwyfan cryf i arloeswyr o’r DU gael arddangos eu hatebion technolegol a chysylltu â chwaraewyr allweddol yn niwydiant gofal iechyd Tsieina. Eleni dw i’n teimlo’n gyffrous iawn am y potensial anhygoel sydd gan fusnesau’r DU i greu partneriaethau newydd ac ehangu eu hôl-troed rhyngwladol.

Awydd mynychu? Cysylltwch

Os ydych yn gwmni Technoleg Iechyd (HealthTech) yn y DU sydd awydd dysgu mwy am y farchnad yn Tsieina, dyma’r cyfle perffaith i gymryd rhan. Felly cofiwch gysylltu â fi’n uniongyrchol i drafod eich gofod arddangos yn CMEF a sut y gallai ABHI eich helpu: lauren.hayes@abhi.org.uk

Mynychu’n barod? Beth am ymuno â’n digwyddiad rhwydweithio!

I rai sy’n mynychu Ffair Fasnach MEDICA ym mis Tachwedd, rydym yn cynnal derbyniad rhwydweithio CMEF arbennig ar y 12fed. Mae’n ffordd wych o gael blaen arni, dysgu mwy am y cyfleoedd yn Tsieina a chysylltu â rhanddeiliaid allweddol o sector gofal iechyd y wlad. Byddwn wrth fy modd yn eich gweld yno!

Gan edrych ymlaen at beth sydd i ddod a datgloi’r potensial gyda’n gilydd!