Roeddem wrth ein bodd yn cynnal digwyddiad bord gron hollbwysig yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI) a Choleg Imperial Llundain.

Daeth y digwyddiad â chwmnïau Technoleg Iechyd, swyddogion, clinigwyr ac academyddion sy'n ymwneud â gweithgareddau trawsfudol i drafod strategaethau ar gyfer hyrwyddo arloesedd ym maes Technoleg Iechyd, gyda phwyslais ar atebion cydweithredol ac argymhellion polisi.
Mae’r digwyddiad bord gron yng Nghaerdydd yn rhan o gyfres genedlaethol o weithdai gan ABHI ac Imperial, gan dargedu meysydd Technoleg Iechyd ledled y DU i leoleiddio argymhellion strategaeth y sector, cydnabod cryfderau rhanbarthol a hyrwyddo strategaethau sydd nid yn unig yn cyflymu arloesedd ond hefyd yn cefnogi twf economaidd a chystadleurwydd byd-eang y DU.
Roedd gan y rhai a oedd yn bresennol nod cyffredin: cyflymu arloesedd a phartneriaethau, a meithrin cysylltiadau cryfach rhwng y GIG, diwydiant a'r byd academaidd i greu system iechyd a gofal sy'n ymateb yn fwy i dechnolegau datblygol ac mewn sefyllfa well i gyflawni effaith gymdeithasol ac economaidd hirdymor.
Un maes allweddol yn y digwyddiad oedd y cydweithio rhwng ABHI a Choleg Imperial Llundain, a’r cyhoeddiad diweddar A Sector Strategy to Transform the Economic and Societal Benefits of UK HealthTech. Mae'r adroddiad yn galw am gamau gweithredu i helpu sector Technoleg Iechyd y DU i dyfu ac i ffynnu, gan argymell atebion ymarferol, cydweithio, a mabwysiadu cyflymach i wneud y GIG yn fwy effeithlon ac arloesol. Peter Bannister a Neil Mesher, y ddau yn Gyfarwyddwyr Anweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru oedd cyd-awduron yr adroddiad, ynghyd ag Andrew Davies (Cyfarwyddwr Gweithredol – Iechyd Digidol, ABHI), Richard Devereaux Phillips, (Cyfarwyddwr Gweithredol – Polisi a Phartneriaethau, ABHI), Daniel Green, (Prif Entrepreneur Coleg Imperial Llundain), a James Moore, (Cadeirydd Bagrit mewn Cynllunio Dyfeisiau Meddygol, Coleg Imperial Llundain), gan dynnu sylw at botensial y sector Technoleg Iechyd. Mae’n cyfrannu GYC o £13 biliwn at economi’r DU, ond mae wedi'i gyfyngu gan gyfalaf prin, prinder sgiliau a llwybrau mabwysiadu digyswllt.
O fewn ei araith, pwysleisiodd Julian Moore, Coleg Imperial Llundain, y cyswllt hollbwysig rhwng Technoleg Iechyd a thwf economaidd ehangach, gan dynnu sylw at rôl y sector wrth wella cystadleurwydd byd-eang y DU a chyflawni effaith hirdymor, gynaliadwy.
Amlinellodd Andrew Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol – Iechyd Digidol, ABHI, ymrwymiad y sefydliad i dwf ar draws y sector drwy reoleiddio cryfach, buddsoddi mewn technolegau digidol a diagnostig, a meithrin diwylliant o gydweithio. Pwysleisiodd yr angen am ymdrech unedig o fewn y diwydiant i lywio amgylchedd cymhleth Technoleg Iechyd yn y DU, lle mae prosesau fel treialon clinigol a chymeradwyaeth reoleiddiol yn parhau i gymryd llawer o amser, ac yn anodd.
Cyflwynodd Vaughan Gething, AS, anerchiad pwerus, yn pwysleisio'r angen brys am arloesi cyflymach. Soniodd Vaughan am bwysigrwydd cydweithio, perchnogaeth a phwrpas wrth ysgogi newid. Cafwyd pwyslais cryf ar fanteisio ar gyfleoedd cyfredol a rhai sydd ar y gweill – gan gynnwys yr uwchgynhadledd fuddsoddi, y strategaeth ddiwydiannol a’r etholiad sydd ar y gweill, fel adegau allweddol ar gyfer llunio dyfodol gofal iechyd a gwyddorau bywyd yng Nghymru. Adleisiodd Vaughan themâu canolog y digwyddiad sef optimistiaeth, perchnogaeth a chynllunio strategol, a manteisio i'r eithaf ar gryfderau Cymru wrth baratoi'n rhagweithiol ar gyfer y dyfodol.
Siaradodd Rhodri Griffiths, ein Cyfarwyddwr Arloesi, yn y digwyddiad hefyd, gan ddweud:
“Mae meddwl ymlaen a datgloi potensial y dyfodol o ran gweld y GIG a Thechnoleg Iechyd yn cydweithio yn golygu buddion sylweddol - nid yn unig i iechyd, ond i’r economi a chynhyrchiant cenedlaethol.”
Daeth trafodaethau pellach â chroestoriad amrywiol o’r ecosystem Technoleg Iechyd at ei gilydd. O fusnesau newydd fel Corryn Biotechnologies, a gynrychiolwyd gan Luke Burke, i arweinwyr y GIG fel Mark Briggs, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Tom Powell, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rhoddodd y rhanddeiliaid hyn safbwyntiau gonest ar y rhwystrau i arloesi, yn enwedig yng Nghymru, gan gynnwys anghydraddoldebau daearyddol o ran mynediad at gyllid, heriau ymgysylltiad clinigol cynnar, a’r angen am newid diwylliannol o fewn y GIG tuag at arloesedd rhagweithiol.
Roedd yn ysbrydoledig gweld sgyrsiau mor gryf ar draws y sectorau. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio ag ABHI ac Imperial, gan adeiladu ar y momentwm hwn i droi syniadau’n weithredu a chael effaith wirioneddol yng Nghymru.
Diddordeb mewn cydweithio? Cysylltwch â ni yn hello@lshubwales.com.