Trydydd parti

Mae Pedro Ramos, Prif Swyddog Gweithredol Promptly Health, yn rhannu sut gallwn ni wella’r gwaith o gasglu a chofnodi data cleifion a’i integreiddio i ddarparu gofal gwell. 

A woman holding an iPad, the screen shows generic graphs and data

Ledled Cymru a’r GIG ehangach, mae timau gofal iechyd yn gweithio’n galed i ateb y galw cynyddol ar yr un pryd â pharhau i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel. Er mwyn cefnogi cleifion a chlinigwyr yn well, mae ffocws cynyddol ar gasglu canlyniadau ystyrlon a adroddir gan gleifion, gan gynnwys mewnwelediadau sy'n datgelu sut mae pobl yn teimlo ac yn gweithredu cyn ac ar ôl triniaeth.

Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, niferoedd cynyddol o gleifion â chyflyrau cymhleth, a disgwyliadau cynyddol am wasanaethau wedi’u personoli, mae’r system yn esblygu i fod yn fwy seiliedig ar ddata, yn fwy cysylltiedig ac yn canolbwyntio mwy ar y claf.

Yn Promptly Health, rydyn ni’n credu bod newid ystyrlon mewn gofal iechyd yn dechrau gyda data gwell, a bod y canlyniadau gorau’n dod drwy gydweithio agos. Ers mis Ionawr 2024, rydyn ni wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â GIG Cymru ar gynllun beiddgar sy’n edrych tua’r dyfodol ac sydd wedi’i ddylunio i wella sut mae canlyniadau sy’n cael eu hadrodd gan gleifion yn cael eu casglu a’u hintegreiddio i ofal. Mae’r rhaglen genedlaethol hon yn ei gwneud yn haws i gleifion rannu eu profiadau, gan roi cipolwg amser real i dimau clinigol i gefnogi penderfyniadau gwell, gofal mwy personol, a gwelliannau ystyrlon i wasanaethau ledled y wlad.

Gan gwmpasu pump o saith Bwrdd Iechyd Cymru ac un Ymddiriedolaeth GIG, mae’r bartneriaeth hon yn ymwneud â grymuso cleifion a thimau rheng flaen gyda gwybodaeth amserol y gellir gweithredu arni. Ond nid systemau yn unig sydd dan sylw yma -mae’n ymwneud â chefnogi’r gwaith y mae Gig Cymru eisoes yn ei arwain i sicrhau bod Cymru Iachach yn cael ei wireddu.

Pontio’r bylchau mewn data cleifion

Cyn i’r prosiect hwn ddechrau, roedd GIG Cymru eisoes wedi cymryd camau breision ymlaen o ran defnyddio offer digidol ar draws ei wasanaethau. Fodd bynnag, roedd casglu a defnyddio gwahanol asesiadau yn amrywio’n fawr rhwng sefydliadau. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs), sef arolygon lle mae cleifion yn rhannu eu statws iechyd ac ansawdd eu bywyd.
  • Mesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREMs), sy’n casglu adborth cleifion ar eu profiad o ofal.
  • Roedd Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Glinigwyr (CROMs), asesiadau clinigol a gofnodwyd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn amrywio’n fawr rhwng sefydliadau.

Roedd yr amrywiad hwn yn ei gwneud yn anoddach rhannu’r hyn a ddysgwyd ar draws rhanbarthau, meincnodi gofal, na chynyddu datblygiadau arloesol yn genedlaethol.

Ein rôl fu ategu’r sylfeini digidol sydd eisoes ar waith — cefnogi timau GIG Cymru i safoni a chynyddu’r defnydd o ddata canlyniadau, gan ddilyn prosesau preifatrwydd a diogelwch llym, heb golli naws ymarfer lleol.

Ein rôl: creu ateb cydlynol, y gellir cynyddu ei ddefnydd

Fel cyflenwr ar fframwaith digidol GIG Cymru, rydyn ni wedi cyfrannu galluoedd technegol i gefnogi dull cyson, diogel a chlinigol-ystyrlon o fesur canlyniadau.

Mae’r prif elfennau’n cynnwys:

  • Gweithredu’r fframwaith Rheoli Canlyniadau Cleifion a Gwasanaethau (PSOM) sy’n cyd-fynd â safonau GIG Cymru a’r model HL7 FHIR, gan alluogi’r gallu i ryngweithredu data’n ddi-dor a sicrhau bod canlyniadau cleifion yn cael eu cofnodi mewn ffordd sy’n cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau clinigol ar draws y system iechyd gyfan.
  • Integreiddio ag Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) Seilwaith Cenedlaethol GIG Cymru i sicrhau bod data’n cael ei gyfnewid yn ddiogel ac yn rhyngweithredol, sy’n golygu bod data’n gallu llifo’n ddiogel rhwng gwasanaethau, gan leihau dyblygu a galluogi golwg gyfannol ar iechyd cleifion.
  • Safoni llif gwaith casglu canlyniadau ar draws ysbytai a gwasanaethau, gan ddarparu gwelededd cliriach i'r hyn sydd bwysicaf i gleifion a chreu sylfaen ar gyfer mewnwelediadau cyson a chymaradwy a all sbarduno gwelliannau i wasanaethau.
  • Arfogi timau clinigol ag offer fel gwybodaeth amser real a dangosfyrddau Coch-Oren-Gwyrdd sy’n tynnu sylw at adegau pan allai fod angen cymorth ychwanegol ar gleifion, gan rymuso timau gofal i ymateb yn rhagweithiol a phersonoli triniaeth, gan wella canlyniadau a phrofiad cleifion yn y pen draw.

Diolch i’n cydweithrediad ac arweinyddiaeth timau GIG Cymru, mae 70 o wasanaethau eisoes wedi cael eu cynnwys ar draws pum Bwrdd Iechyd – o oncoleg i ofal clefydau cronig – gan gwmpasu dros 2.4 miliwn o bobl a chasglu dros 185,000 o holiaduron canlyniadau hyd yma.

Ers dechrau Mehefin 2025, rydym wedi cynnwys cyfanswm o 76,066 o gleifion ar draws pob Bwrdd Iechyd.

Mwy na metrigau: effeithio ar ofal cleifion go iawn

Nid y dechnoleg sy’n ysbrydoli fwyaf, ond pa mor gyflym y mae timau GIG Cymru yn ei chroesawu ac yn ei defnyddio i wella gofal. Mae un Bwrdd Iechyd wedi casglu dros 30,000 o PROMs mewn un arbenigedd, gan ddefnyddio mewnbwn cleifion yn weithredol i lywio penderfyniadau gofal. Mae un arall wedi integreiddio data canlyniadau i lifau gwaith arferol, gan alluogi clinigwyr a chleifion i olrhain cynnydd gyda'i gilydd.

Mae CROMs bellach yn cael eu cofnodi hefyd, gan roi darlun mwy cyflawn i dimau gofal o gynnydd cleifion, i gyd o fewn system ddiogel a rennir sy’n parchu preifatrwydd a naws glinigol.

Gwersi a ddysgwyd: data sy'n sbarduno gweithredu

Mae’r bartneriaeth hon yn atgyfnerthu’r ffaith bod trawsnewid digidol yn llwyddo pan fydd yn parchu realiti gofal rheng flaen. Dyma rai o’r gwersi allweddol:

  • Rhaid i safoni gefnogi perchnogaeth leol – mae fframweithiau’n gweithio orau pan fyddant wedi’u teilwra ar y cyd â’r rhai sy’n darparu gofal.
  • Ymddiriedaeth ac ymgysylltu yw popeth – y systemau mwyaf cynaliadwy yw’r rhai y mae timau clinigol eisiau eu defnyddio.
  • Rhaid i breifatrwydd gael ei gynnwys, nid ei ychwanegu - drwy Amgylcheddau Data Diogel Promptly Health, mae GIG Cymru yn cadw rheolaeth lawn a diogel ar ddata, bob amser o fewn ei ffiniau digidol.

Beth nesaf

Ar y cyd â GIG Cymru, rydyn ni’n parhau i ehangu darpariaeth gwasanaethau, cyd-ddatblygu dadansoddiadau uwch, ac adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn eu lle. Erbyn diwedd 2025, y nod yw cefnogi dros 200 o wasanaethau ar draws yr holl Fyrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau GIG sy’n cymryd rhan.

Mae’r gwaith hwn yn brawf o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd systemau gofal iechyd a phartneriaid digidol yn cyd-fynd â chenhadaeth a rennir: darparu gwell gofal drwy well data, gyda chleifion yn y canol.

Os yw eich sefydliad yn edrych ar sut mae integreiddio data canlyniadau mewn ffordd sy’n parchu preifatrwydd ac sy’n sbarduno effaith, byddem yn fodlon rhannu mwy am y daith hon a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar hyd y ffordd. Dysgwch fwy am ein gwaith yng Nghymru ar ein gwefan.

Gwybodaeth am yr Awdur

Pedro Ramos, Prif Swyddog Gweithredol yn Promptly Health, cwmni sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo tystiolaeth o’r byd go iawn sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n cadw preifatrwydd drwy atebion digidol y gellir cynyddu eu maint.