Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwyr Anweithredol newydd i’n helpu ni sicrhau mai Cymru yw’r lle y mae pobl yn ei ddewis ar gyfer buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym angen pobl sydd â phrofiad o’r sector gwyddorau bywyd i ddarparu dealltwriaeth strategol a chefnogi’r weledigaeth feiddgar hon.
Mae ein sefydliad yn cefnogi arloesedd yn y gwyddorau bywyd i gyrraedd ein rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ymuno â’n tîm a gwneud gwahaniaeth go iawn drwy wella llesiant corfforol ac economaidd pobl yng Nghymru.
Gair am y swydd
Er mwyn cefnogi ein nodau a’n hamcanion strategol, rydym yn chwilio am bobl sydd wedi gweithio yn y GIG o safbwynt cyllid a chaffael. Byddwch yn frwd dros feithrin cyfleoedd sy’n sbarduno twf economaidd ac yn cryfhau rhyngwyneb y diwydiant a’r GIG. Bydd hyn yn ein helpu i drawsnewid y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys y canlynol:
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol, a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn a datblygu strategaethau.
- Cynghori ein Bwrdd ar faterion allweddol – gan gynnig eich barn a herio pan fo’n briodol.
- Cefnogi ein Prif Swyddog Gweithredol i benodi staff uwch a mentora staff presennol.
- Goruchwylio stiwardiaeth effeithiol ar adnoddau gan sicrhau atebolrwydd a bod yn agored o ran dyrannu a defnyddio adnoddau.
- Eiriol dros ein sefydliad ar draws y sector gwyddorau bywyd.
Mae dod yn Gyfarwyddwr Anweithredol hefyd yn rhoi cyfle i chi greu cysylltiadau â phobl a sefydliadau ar draws y sector.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gan Gyfarwyddwr Anweithredol
Bydd angen i Aelodau’r Bwrdd fod ar gael i weithio i ni am o leiaf 12 diwrnod y flwyddyn. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.
Byddwch yn derbyn tâl ar gyfradd ddyddiol o £282 hyd at uchafswm o £15,000 y flwyddyn (pro rata) ynghyd â chostau teithio a chynhaliaeth.
Gwnewch Gais Nawr!
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu anfonwch e-bost i publicappointments@gov.wales.
Y dyddiad cau i geisiadau yw 8 Mai 2023. Rydym yn disgwyl cynnal y cyfweliadau yn ystod mis Gorffennaf 2023.