Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi sefydlu Cynllun Cydweithio Arloesi a Chymorth yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022.
Mae’r Cynllun yn darparu gwasanaethau cymorth arloesi a chydweithio ymarferol yn bennaf i dderbynwyr cymwys sy’n gweithredu yn ecosystem arloesi iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, neu’n darparu budd amlwg iddi.
At ddibenion rheoli cymorthdaliadau, dim ond pan fydd y derbynnydd yn gweithredu fel menter y mae hyn yn berthnasol, sy’n golygu ei fod yn ymwneud â gweithgarwch economaidd drwy gynnig nwyddau neu wasanaethau ar farchnad. Pan fydd cymorth yn ymwneud â gweithgarwch aneconomaidd yn unig, gall y sefyllfa rheoli cymorthdaliadau fod yn wahanol a dylid ei hystyried fesul achos.
Gallai hyn gynnwys busnesau bach a chanolig, mentrau mawr, prifysgolion, sefydliadau trydydd sector, sefydliadau’r GIG neu gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, ond dim ond pan fyddant yn gweithredu fel mentrau at ddibenion rheoli cymorthdaliadau.
Mae’r Cynllun yn ategu’r gwaith o ddatblygu, mabwysiadu a chynyddu arloesi; gweithio mewn partneriaeth; mynediad at arbenigedd, rhwydweithiau a seilwaith; cyflawni rhaglenni; a mentrau cydweithredol sy’n cyfrannu at uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran arloesi, iechyd, gofal cymdeithasol a datblygu economaidd.
Ceir rhagor o fanylion yma.